Chwarae Gwyddbwyll.com gydag Owen Llywelyn #steddfod2013

Dyma fideo 35-munud o’r rhan fwyaf o gyflwyniad eisteddfodol Owen Llywelyn am Gwyddbwyll.com, gwefan annibynnol sydd yn galluogi gemau gwyddbwyll fyd-eang trwy gyfrwng y Gymraeg!

Mae’r fideo yn fler ac mae sgrin yn edrych yn lliwgar a phinc am ryw reswm. Dw i’n hapus fy mod i wedi dogfennu’r sgwrs. Does dim ymddiheuriadau heblaw am fy mod i ddim wedi gwneud fideos o lot o sesiynau eraill! Diolch i Home Bargains am y drybedd fach.