Digwyddiad: Diffyg Democrataidd yng Nghaerdydd wythnos yma #diffygnewyddion

Mae’r Cynulliad wedi gofyn i mi basio’r manylion isod ymlaen. Mae nifer cyfyngedig o lefydd i gael ar hyn o bryd.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Diffyg Democrataidd Sesiwn 2

Lleoliaeth – achubiaeth datganoli?

Ar adeg pan fo’r cyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru yn methu’n gyson i ymgysylltu pobl Cymru â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, dymuna Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, eich gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaeth ar rôl y cyfryngau rhanbarthol a hyperleol.

Bydd y sesiwn ar ffurf trafodaeth o gwmpas y bwrdd lle gallwch fynegi eich barn ar nifer o sianelau cyfathrebu â chynulleidfaoedd yng Nghymru sy’n newydd ac yn dod i’r amlwg ynghyd â mentrau lleol mwy traddodiadol.

Defnyddir canlyniadau’r sesiwn hon i lunio adroddiad ar sut gall y Cynulliad Cenedlaethol weithio gyda phob rhan o’r cyfryngau yng Nghymru er mwyn annog rhagor o bobl i fod yn ddinasyddion gweithgar. Daw’r digwyddiad hwn ar ôl cynhadledd Prifysgol Caerdydd ar newyddiaduraeth gymunedol, a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Dyddiad: Dydd Mercher 12 Mehefin 2013
Amser: 17.00 – 19.00
Lleoliad: Y Pierhead
Bydd te a choffi ar gael.

I sicrhau lle, anfonwch e-bost at:
Archebu@cymru.gov.uk
neu ffoniwch 0845 010 5500
#diffygnewyddion

2 sylw

  1. Dw i’n berchen ar ypapur.com ers blynyddoedd, wedi dychmygu creu papur newydd y gall darllenwyr ledled Cymru cyfrannu iddo ac iddyn nhw weld straeon yn berthnasol i’w ardal a’i diddordebau. Does dim yr amser na’r gallu gennyf i i greu’r fath beth, ond mae’n swnio’n fel mai rhywbeth tebyg fydd poblcaerdydd.com (Dylen nhw hefyd gofrestru pobolcaerdydd.com, gyda llaw, fel bod *pobl* fel fi ddim yn gweld neges “Heb ganfod gweinydd”.) Rolio fo allan dros Gymru i gyd os yw’n gweithio.

    O ran y sesiwn uchod, mae fideo o’r cadeiryddion yn siarad eisoes ar YouTube, ond os ydych yn disgwyl clywed Carl yn siarad, siom sydd o’ch blaenau – mae ‘na lais dynes drosto yn cyfieithu i Saesneg! http://www.youtube.com/watch?v=sW6DwoPUlKM

Mae'r sylwadau wedi cau.