Wythnos Digidol Caerdydd – mis Mehefin 2013

Dw i newydd gweld tudalen newyddion ar wefan BBC am Wythnos Digidol Caerdydd:

Fis nesaf, bydd cyfle i drin a thrafod dyfodol digidol y diwydiannau cyfryngau creadigol yng Nghymru yn ystod Wythnos Ddigidol Caerdydd.

Caiff y digwyddiad arloesol hwn ei gynnal rhwng 24 a 27 Mehefin gan ddwyn ynghyd y talent gorau yn y sectorau cyhoeddus, preifat, addysgol a hyfforddiant i archwilio arloesedd, cyfleoedd a syniadau newydd ar draws yr holl sbectrwm digidol.

Rhoddir sylw i gwmnïau sy’n geffylau blaen yn y sector digidol a’r diwydiant creadigol yn ogystal â’r technolegau cynhyrchu a’r platfformau digidol diweddaraf. Bydd y gweithdai ymarferol yn sôn am ganllawiau ar allbwn digidol – mewn gemau ac animeiddio, drama a chynnwys ffeithiol – yn ogystal â ffyrdd o gyllido prosiectau digidol a meithrin gallu drwy fodelau cyllido newydd.

Bydd croeso cynnes i chi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, lle cynhelir digwyddiadau’r wythnos. Bydd yn gyfle i’r gymuned ddigidol yng Nghymru rwydweithio â’r enwau mawr yn y sectorau digidol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac i drafod y tueddiadau digidol a chreadigol diweddaraf.

Caiff y digwyddiad ei arwain gan nifer o bartneriaid, yn cynnwys y BBC, S4C, Cyngor Caerdydd, Creative Skillset Cymru, BAFTA Cymru, Academi Cyfryngau Cymru a Llywodraeth Cymru. […]

Mae llwyth o ddigwyddiadau ar y tudalen gan gynnwys diwrnod am yr economi digidol.