Cyfarfod i drafod ‘Y Dinesydd 24/7’, yn Chapter, Caerdydd 7/4/13

Efallai i chi gofio i ni drefnu Hacio’r Iaith Bach: Newyddion lleol yn y ddinas ym mis Mai 2012. Roedd hi’n noson dda. I’r rhai a fynychodd y noson honno, efallai bydd y canlynol o ddiddordeb i chi:

  1. Newyddion a Chwaraeon Lleol
  2. Blogiau
  3. Adolygiadau
  4. Bwytai a Thafarndai
  5. Cymdeithasau a Mudiadau
  6. Rhwydweithiau Cymdeithasol
  7. Busnesau Lleol
  8. Digwyddiadur

Os yw un neu fwy o’r uchod o ddiddordeb i chi, beth am ymuno â ni’n Chapter, Nos Lun nesaf, Ebrill 7 am 7.30pm

Mae Menter Caerdydd, mewn parterniaeth â’r Dinesydd a Phrifysgol Caerdydd yn edrych i ddatblygu gwefan newydd a fydd yn hwb cymunedol i’r Brifddinas. Ein bwriad yw datblygu cymuned ar-lein a fydd yn ffynhonell o wybodaeth rhyngweithiol fywiog a pherthnasol i fywyd bob dydd yng Nghaerdydd.

Hoffem eich gwahodd i’r cyfarfod cyntaf er mwyn casglu barn a phrofiadau cynifer o bobl a phosib, i sicrhau ein bod yn creu gwefan a fydd yn apelio at ystod eang o bobl o bob oed.

Diolch i Betsan Powys am gytuno i arwain y cyfarfod cyntaf, felly beth am ymuno â ni i drafod a llywio dyfodol y prosiect newydd cyffrous hwn.

Croeso i bawb.

Sian Lewis
Prif Weithredwr/Chief Executive

Menter Caerdydd
42 Lambourne Cres
Llanishen
Caerdydd
CF14 2TE

02920 689888

Mwy am y wefan arfaethedig mewn erthygl ar Golwg360.

6 sylw

  1. Do, aeth Carl a fi yn ogystal a nifer o bobl eraill. Cyfarfod adeiladol iawn.

Mae'r sylwadau wedi cau.