Cyfieithu Disqus

Fel rhywun wnaeth gyfrannu at gyfieithu rhyngwyneb Disqus yn y gorffennol, ges i ebost ganddyn nhw heddiw’n dweud eu bod wedi newid gwefannau/widgets ac angen cyfieithu o’r newydd.

Dwi’n gweld mwy o flychau sylwadau Facebook na rhai Disqus dyddia ma felly dwn i ddim faint o flaenoriaeth ydi hwn mewn gwirionedd. Ond dyma’r ddolen os oes unrhyw gyfieithgwn isio rhoi tro arni.

3 sylw

  1. Dwi newydd wedi gorffen cyfieithu Disqus ac mae nawr yn fyw. Yn anffodus, nid oes unrhyw sylw ‘cyd-destun’ o dan y teclyn cyfieithu, felly posib bod sawl gwall yn bodoli. Felly, plis ewch ati a chyfrannu os ydych chi’n sylwi ar unrhyw broblemau ac ati.

Mae'r sylwadau wedi cau.