Dau ddiwrnod ar ol i ymateb i gynlluniau Nominet ar gyfer .cymru a .wales

Ymysg y cwestiynau ddylen ni fel pobol sydd eisiau datblygu’r Gymraeg arlein ymateb iddyn nhw ydi:

A ddylai rhywun sy’n prynu .cymru gael .wales yn awtomatig wedi ei gysylltu? (cwestiynau 1-6)

Ddylai .cymru fod â gofynion iaith? h.y. bod rhaid i bob gwefan sydd eisiau defnyddio .cymru fod â chynnwys Cymraeg. (cwestiynau 23 a 24)

Ond yr un darn pwysig iawn lle *nad* oes lle i ymateb ydi ar sut mae Ymddiriedolaeth Nominet yn dosbarthu elw sy’n dod o’r fenter. Dyma eu blyrb:

Caiff unrhyw arian dros ben sy’n cael ei greu gan ofod parth .uk ei ail-fuddsoddi yn y gymdeithas ehangach trwy Ymddiriedolaeth Nominet, elusen annibynnol sy’n cefnogi mentrau sy’n defnyddio’r rhyngrwyd i ysgogi gweithredu cymdeithasol cadarnhaol ar lefel llawr gwlad. [3] Bydd unrhyw arian dros ben sy’n cael ei greu wrth weithredu parthau .cymru a .wales yn cael ei neilltuo a’i roi i achosion elusennol er budd y gymdeithas Gymreig.

Mae Ymddiriedolaeth Nominet wedi datblygu profiad ac arbenigedd sylweddol yn ei gwaith i gefnogi prosiectau yn y gymuned; ein bwriad felly yw gofyn i’r Ymddiriedolaeth fod yn brif ddull dosbarthu ar gyfer unrhyw arian dros ben o’r parthau newydd. Bwriad yr Ymddiriedolaeth fydd datblygu ei phresenoldeb yng Nghymru, naill ai’n uniongyrchol neu trwy sefydliad partner, er mwyn sicrhau bod eu gwaith yn elwa ar wybodaeth leol yn ogystal ag arbenigedd yr Ymddiriedolaeth.

Bydd y cyfraniadau cyffredinol i achosion elusennol yn dibynnu ar lefel ymgymeriad y parthau; os cânt eu mabwysiadu’n gyflym ac yn eang, yna bydd costau Nominet yn cael eu talu’n gynt a bydd arian dros ben ar gael yn gynharach. Os na chânt eu mabwysiadu’n gyflym, yna bydd yn cymryd mwy o amser i greu arian dros ben. Os yw proses lansio’r parthau newydd yn creu arian annisgwyl sylweddol, yna bydd Nominet yn gwneud cyfraniad cynnar i’r Ymddiriedolaeth i adlewyrchu hyn.

Mae’n andros o bwysig bod mentrau Cymraeg arlein yn cael cynrychiolaeth sylweddol yn hyn o beth gan bod y ddarpariaeth fel ag y mae hi mor wan. Os nad oes blwch ymateb dylen ni efallai ebostio nhw ar cymru.wales@nominet.org.uk

Gallwch ymteb arlein ar: http://www.domainforwales.org.uk/cy/content/dweud-eich-dweud

Rhaid gwneud hyn erbyn 28 Chwefror!