Lansio gwasanaeth Cyfieithu Anarchaidd Ar-lein

Newydd gweld enghraifft diddorol yma o gyfieithu torfol a phrawfddarllen:

Mae Anarchwyr De Cymru, Croes Ddu Caerdydd, Bwyd Nid Bomiau Cymru, Rhwydwaith Sgwatwyr Caerdydd a grwpiau tebyg angen gwasanaeth cyfieithu Cymraeg effeithiol a chyson.
Mae’r rhestr ebyst welshtranslation@lists.riseup.net yn un o gyfieithwyr gwirfoddol sy’n medru gwneud y gwaith yma. Byddwn ond yn cyfieithu:

Dogfennau / posteri / taflenni / gwefannau ac ati sydd yn di-elw, nad ynt yn hierarchaidd ac o safbwynt anarcho-sosialaidd (mwy neu lai).

Y syniad yw hyrwyddo yr e-bost i grwpiau ymgyrchu yng Nghymru, yna maent yn medru anfon beth bynnag y maent angen ei gyfieithu atom. Mi fydd gwirfoddolwyr sydd ar y rhestr ebyst yn optio i mewn i gyfieithu ac yna yn ei bostio fynnu ar y grwp mewnol i’r cyfieithiad gael ei brawfddarllen. Yna caiff y cyfieithiad gorffenedig yn cael ei yrru nol at y grwp/pobl a wnaeth ofyn amdano. […]

Cysylltwch yn uniongyrchol os oes cwestiwn/sylwadau gyda chi. Rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth cyfieithu

2 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.