Branch – Safle sgwrsio newydd

Logo Branch

Fel mae Hacio’r Iaith 2013 yn agosáu o’n i’n meddwl fyswn i’n sôn am Branch – A new way to talk to each other

Rydym yn wastad wedi bod yn cael sgyrsiau ar Twitter ond ar ôl hyn a hyn o ‘Tweets’ mae’n anodd cadw trac. Mae Brach yn galluogi y sgwrs i gario drosodd o Twitter ac yn ei ehangu i fwy na 140 nodyn. Rydych hefyd yn gallu dechrau sgwrs trwy rhoi URL i wefan, llun, fideo neu sain (Soundcloud a Spotify). Rydych hefyd yn gallu cyhoedi y sgwrs yma ar eich gwefan.

Mae Branch newydd ddod allan o ‘Beta’ ac mae gan Haciaith grŵp yno, felly dewch draw i ymuno a’r sgwrs.