Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol – Aberystwyth, mis Ionawr 2013

Dw i’n edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad yma:

Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Penglais
SY23 1BU
Aberystwyth
Dydd Gwener 18fed mis Ionawr 2013
09:30 i 19:00

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido bron i filwn o dudalenni o bapurau newydd hanesyddol Cymru, i’w lawnsio ym mis Mawrth 2013. Dyma gyfle i gael chwarae gyda’r data a’r delweddau o’r prosiect cyn iddo gael ei lawnsio i’r cyhoedd, gyda mynediad uniongyrchol i’r wefan beta a’r API sy’n sylfaen iddi.

Mae’r Hacathon ar agor i bobl creadigol o bob math yn ogystal â datblygwyr, a daw â phobl gyda syniadau ynghyd â phobl gyda’r sgiliau i’w gweithredu.

Hawliwch docyn drwy’r dudalen hon a mi ddanfonwn ni becyn gwybodaeth i chi gyda manylion o amserlen y digwyddiadau sy’n arwain at yr Hacathon ei hun yn Aberystwyth ar Ionawr y 18fed.

Bydd detholiad o gynnyrch yr Hacathon yn cael ei arddangos yn lawnsiad y wefan yng Nghaerdydd ar y 13eg o Fawrth, 2013. Yn ogystal, bydd gwobrau ar gyfer y datblygiadau gora.

Rydyn ni wedi cyd-weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol i amseru’r Hacathon a Hacio’r Iaith gyda’i gilydd. (Bydd Hacio’r Iaith 2013 ar y diwrnod canlynol, dydd Sadwrn.)

Cer i’r digwyddiad Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol ar Eventbrite os wyt ti eisiau cofnodi diddordeb.

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.