Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron

Literatim (Android)

Yn ein pabell yn Steddfod Gen eleni cyflwynodd David Chan ei brosiect newydd, bysellfwrdd darogan Cymraeg ar Android. Mae fe wedi bod yn gweithio’n galed ar y meddalwedd fel menter annibynnol llawrydd. Roedd ambell i berson yn y pabell mis Awst yn dweud bod nhw yn fodlon symud o ffonau eraill i Android er mwyn defnyddio’r ap. Dyma gwir ystyr ‘killer ap’ (fel VisiCalc ar yr Apple II…)

Dw i newydd dysgu taw Literatim yw enw yr ap bysellfwrdd, sef y gair Lladin am ‘llythyren am llythyren’. Dydd Mawrth bydd lansiad yr ap ar gopa’r Wyddfa! O hanner dydd ymlaen bydd yr ap ar gael yn y storfa Google Play am ddim yn ogystal ag ap geiriaduron o’r enw… Ap Geiriaduron. Mwy am Ap Geiriaduron nes ymlaen.

Yn gyntaf dyma sut mae Literatim yn edrych ar Android os wyt ti’n defnyddio teipio darogan. Mae dros 100,000 o eiriau gan gynnwys Cymraeg anffurfiol.

Mae nodwedd diddorol i bobl sydd ddim yn rhugl yn Gymraeg. Os wyt ti’n dechrau teipio gair yn Saesneg mae’r bysellfwrdd yn awgrymu cyfieithiadau Cymraeg. Yn yr enghraifft yn y sgrinluniau mae ‘succeed’ yn gallu cyfieithu i ‘dilyn’ (yn yr ystyr o ‘succession’)…

…neu ‘llwyddo’ felly mae’r meddalwedd yn awgrymu’r ddau yn ogystal ag opsiynau eraill. Mae geiriadur wrth law i helpu gyda’r ystyr priodol hefyd.

Mae’r bysellfwrdd yn gweithio gydag unrhyw ap sydd yn defnyddio’r bysellfwrdd Android, e.e. e-bost, Negeseuon SMS, WordPress, Twitter, Evernote, Facebook, ayyb.

Mae David Chan yn haeddu clod am ddatblygu ap mor ddefnyddiol sydd yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i ddefnydd o’r Gymraeg. Beth sydd angen ydy mwy o gyhoeddusrwydd er mwyn hybu defnydd. Gobeithio fydd yr ap yn weithio yn iawn ar yr amrywiaeth o ddyfeisiau Android sydd ar gael fel ffonau Samsung, ffonau HTC, Dell ac yn y blaen.

DIWEDDARIAD: mae David yn bwriadu rhyddhau’r cod dan y GPL hefyd, sy’n wych. Mae fe hefyd yn paratoi fersiwn Tsieinëeg!

Literatim – rhagor o wybodaeth

Ap Geiriaduron (Android, iPhone ac iPad)

Mae’r lansiad dydd Mawrth yn cynnwys dau ap. Roedd rhaid i mi ddewis un i ddechrau’r cofnod, Ap Geiriaduron yw’r llall sydd yn arbennig o dda hefyd ac yn haws i esbonio – geiriadur o 100,000 gair ar dy ffôn neu tabled gan gynnwys geiriadur cyffredinol Cysgair a geiriadur termau safonol Y Termiadur Addysg.

Bydd Ap Geiriaduron ar gael am ddim trwy storfa ap Apple, Google Play a storfa ap Amazon.

Cwdos i Patrick Robertson, David Chan (eto), Gruffudd Prys, Dewi Jones ac aelodau eraill o’r Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.

Ap Geiriaduron – rhagfanylion

Byddai bysellfwrdd Cymraeg a geiriadur(on) Cymraeg mewn poced yn ddefnyddiol iawn i filoedd o bobl. Gobeithio fydd y tywydd yn iawn ar gopa’r Wyddfa ar gyfer y lansiadau! Byddwn i wedi mynd am y dafarn i ddangos pa mor symudol yw’r aps felly chwarae teg, byddai’r pwynt uchaf yng Nghymru yn lle penigamp. Fydd unrhyw signal ffôn yna?!

20 sylw

  1. Diolch Carl! Anghofiais sôn am y nodwedd leiaf ond un eithaf pwysig: ers y sgrinluniau uchod, dw i wedi symud y collnod i’r prif fysellfwrdd, fel bod modd teipio pethau bach syml fel “dwi’n hoffi’r bla bla bla” heb orfod switsio yn ôl ac ymlaen rhwng dwy fysellfwrdd.

  2. Bysellfwrdd yn edrych yn grêt.
    Oes na linc i lawrlwytho y Geiriadur? Fedrai’m ffeindio fo.

  3. Wrthi’n profi’r bysellfwrdd ar fy ffôn i deipio’r sylw hwn!

    Roedd gosodiad yn weddol syml:
    1. cer i Google Play, chwilio am LiteratIM, gosod
    2. cer i Settings | Language & Keyboard | rhoi tic ar LiteratIM
    3. cer i deipio rhywbeth rhywle, pwyso ar y sgrin er mwyn newid modd mewnbwn (input method)
    4. y tro cyntaf mae’r ap yn lawrlwytho’r geiriau i’r ffôn yn awtomatig felly mae di-wi yn syniad da

    Gwych! Mae’n braf i deipio ‘i’ pan o’n i’n arfer disgwyl ‘I’ mawr awtomatig! Heb sôn am yr acenion a’r geiriadur.

  4. Smae Iestyn, yn anffodus doedd hi ddim yn bosibl creu bysellfwrdd sy’n gweithio ar iPad / iPhone — dydy Apple ddim yn caniatáu hynny. Fydd yna ap bysellfwrdd Cymraeg yn y dyfodol? Dim ond Apple sy’n gallu penderfynu (neu Lywodraeth Cymru). Mae’n ddrwg gen i am hynny!

  5. Ardderchog. Roedd wir angen geiriadur Cymraeg (mae ap geiriadur Gwyddeleg – Get the Focal Irish Translator – wedi bod ar gael am ddim ers sbel). Mae’r bysellfwrdd i’w weld yn gweithio’n dda hefyd.

    Dyma fantais meddalwedd cod agored fel Android dros system caeedig fel un Apple, sef bod modd i bobl ddatblygu pethau y maen nhw am eu datblygu yn hytrach na dim ond beth mae cwmni mawr rhyngwladol am i ni gael.

  6. Dw i newydd sgwennu adolygiadau o’r ddau ap ar Play sydd yn gyfnewid teg – oherwydd maent am ddim! Byddwn i’n annog pobl eraill i wneud yr un peth os bosib.

  7. Bendigedig. Yn sgil dy flogpost nes i fewnosod yr ap ac mae’n gweithio’n dda, ond am un peth bach, h.y. mae’r bysellfwrdd yn cuddio’r bowtm ‘tweet’ yn fy ap Twitter (Twicca). Yn bendant nai gario mlaen gyda fe gan ei fod mor ddefnyddiol a chyflym.

  8. Problem arall Twitteraidd dwi newydd darganfod ydy dim botwm ‘underscore’ sy’n codi reit aml mewn cyferiiadau Twitter. Fel arall, ap ardderchog.

  9. Richard, yn fersiwn 1.1 (sydd bellach ar gael o Google Play) dw i wedi ychwanegu opsiwn “cuddio” pan wyt ti’n pwyso’r botwm “cog”, felly dylai fod hi’n hawdd pwyso “tweet” wedyn. Gobeithio fod hynny’n helpu – gad i mi wybod!

  10. Mae David hefyd wedi ychwanegu llythrennau acennog (fel á, ï, ô, ŵ etc.) i’r bysellfwrdd. Gallwch eu hychwanegu drwy bwyso’n hir ar y llythyren briodol ac yna dewis yr acen o’r ddewislen sy’n ymddangos. Diolch David!

  11. OK, sori ond dwi’n gweld hwn yn hollol frustrating. Dwi wedi ei lawrlwytho dros mis yn ol ond yna dileu’r linguabeth bynnag ydy’r enw. Doedd e ddim yn gweithio o ran rhagsgwennu, unig beth oedd yn neud oedd peidio rhoi I i fi yn lle i, Dwi wedi ceisio ei lawrlwhytho eto ond wedi rhoi give-up.

    1. Mae’n amhosib i rhywun nad sy’n dallt y dalltings i ddod o hyd i hwn. Ddim modd ei ffeindio yn Play Store heb fod rhywun yn gwybod enw’r blincin app. Teipio fewn ‘predictive texting + Cymraeg’ heb weithio i fi.

    2.Datganiad sydd ar y we jyst yn son am fod ar ben y Wyddf a pha mor hanesyddol ydy’r peth, Dwi jyst eisiau dolen syml i’r app yn esbonio beth mae’n feddwl. Doedd dim blincin dolen syml i’r app arno. Des i hyd i’r ddolen ar gwefan haciaith.cymru – faint o bobl sydd am wneud hynny?

    3.Dwi ddim yn gwybod pa fath o ffon sydd gen i.HTC o rhyw fath.Ydy’r app yn gwehthio i bob math o HTC neu ddim?

    4.Dwi wedi ceisio ei lawrlwytho eto – ar ol gorfod mynd i’r wefan yma i ffeinidio’r dolen.Mae hynny’n golygu fod take up hwn lot lot lot llai na galle fod.

    5.Wedi ei lwytho (dwi’n meddwl) ond yn cael neges fel ‘this imput methos may enable you to collect all the text you type, including personaldata like pass wordsand credit card numbers …’. So, na, dwi ddim arwyddo i hwn!

    Hoffwn arwyddo a gwneud i 2 ffon arall sydd gan fy mhlant (sydd bythnyn textio’n Saesneg).Ond mae’n rh drafferthus,wnaeth e ddimgweithio pan wnes i e i gychwyn mis yn ol, a nawr dwi ddimam arwyddo rhag i rhyw gwmni cael fy holl manylion. Yn fras, mae’r gwaith yn wych.Dwi eisiau ei ddefnyddio ond dwi methu a gwna i ddim.Mae’n rhy gymleth.

  12. Smae Sion,

    Sori bod pethau mor rhwystredig! Dw i’n ymddiheuro fod gosod bysellfwrdd ar Android mor gymhleth: byddwn i’n falch pe tasen nhw’n streamleinio’r broses.

    Dylai’r ap weithio ar dy ffôn di; gwna yn siŵr dy fod ti’n dilyn http://troi.org/literatim.html yn ofalus, gan gynnwys y sgrinluniau efo saethau mawr coch.

    Os dw i’n teipio “Predictive texting + Cymraeg” mewn i Google Play yna mae’r ap yn dod yn gyntaf i mi. Beth sy’n dod yn gyntaf i ti? Rhyw ap arall, dw i’n cymryd …

    Mae’r neges am rifau cerdyn credyd yn frawychus on’d ydy! Mae’n dod i fyny os wyt ti’n gosod *unrhyw* fysellfwrdd newydd ar dy ffôn. Mae’n dweud, mewn theori, y gallai ap bysellfwrdd drwg logio popeth rwyt ti’n ei deipio a’i anfon ymlaen at ladron mewn crysau-T streipiog. (Yn yr un ffordd, gallai unrhyw ap drwg ar dy luniadur ddwyn dy rif cerdyn credyd … sgeri!) Yr ateb tymor hir yw i’r llywodraeth fynnu bysellfwrdd Cymraeg/Saesneg ar bob ffôn newydd. Ond yn y cyfamser na i wenu mewn ffordd gredadwy 🙂

    Eniwe, sori am y profiad rhwystredig, ond dw i’n ffyddiog bydd yr ap yn gweithio ar dy ffôn Android di. Wyddi di beth, os wyt ti’n dilyn y cyfarwyddiadau ar fy ngwefan (uchod) yn berffaith, a dydy’r ap dal ddim yn gweithio, yna gwna i brynu peint i ti a dau ffrwt shwt i’r plant. Trust me, I’m a software engineer 😉

    A diolch am dy adborth!

  13. Sion, dw i wedi newid y testun yn Google Play i fod yn fwy clir am y rhifau cerdyn credyd a’r camau gosod. Dw i’n siŵr bydd pobl eraill efo’r un cwestiynau, felly gobeithio bydd hynny yn helpu. Diolch eto!

  14. David – diolch. Meddwl fod popeth yn iawn nawr, diolch. Am geisio lawrlwytho’r app I ffons fy mhlant.

    Un broblem dwi’n gael ydy defnyddio’r collnod – i’r, a’r, y’r etc. Mae’r app yn cynnig ‘r etc ond mae’n rhaid teipio fewn y collnod er mwyn i’r dewis ddod ar y dewislen,mae rhywun wedyn yn teipio ‘r ac yn cael dau gollnod – a”r neu i”r etc.Sut mae dod dros hyn?

Mae'r sylwadau wedi cau.