Twitter yn ychwanegu Cymraeg i'r prosiect cyfieithu rhyngwyneb

Heddiw mae Twitter wedi anfon negeseuon preifat i ddefnyddwyr sydd wedi gwneud cais am ryngwyneb Cymraeg.

Mae’r prosiect ar agor i bawb gyda chyfrif Twitter sydd yn fodlon gwirfoddoli. Mae Cymraeg ar y rhestr ymhlith lot o ieithoedd eraill.

1. Cer i http://translate.twttr.com ar dy gyfrifiadur os wyt ti eisiau cymryd rhan. (Dw i ddim yn meddwl bod modd defnyddio ffôn.)

2. Cytuna i’r termau ac amodau (!)

3. Dewisa ‘Welsh (Cymraeg)’

4. Cer i ‘Translate | Twitter Glossary’

5. Mae modd cyfieithu neu pleidleisio ar dermau sydd yna eisioes

Ar hyn o bryd mae 5 term yn cyfrif fel tua 2%. Felly mae cyfanswm o tua 250 term yn unig. Mae lot llai o linynnau (eitemau o destun) na lot o brosiectau cyfieithu eraill. Mae pobl wedi dechrau eisoes felly bydd y gwaith ar ben cyn hir. DIWEDDARIAD: Rhodri yn dweud ‘Dim ond y glosari prif dermau sydd ar gael i’w cyfieithu ar hyn o bryd. Dyna pam bod cyn lleied. Byddan nhw wedyn yn agor fyny ar gyfer yr holl sdwff boring fel Telerau ac Amodau ac FAQs.’

(Gweler hefyd: sgwrs am dermau Twitter.)

Does dim modd trafod y cyfieithiadau ar y system. Felly mae croeso i bawb trafod isod.

O fy safbwynt i, mae’r lansiad yn golygu bod Twitter wir yn barod i lenwi’r gwasanaeth gyda mwy o hysbysebion! Mae’r adran ‘Localize | Review Users’ yn gofyn am gyfrifon poblogaidd er mwyn bwydo’r rhestr o ddefnyddwyr i’w awgrymu (SUL – Suggested User List) pan mae pobl yn ymaelodi. Un problem yw’r diffyg ymwybyddiaeth o Gymru fel gwlad – ‘United Kingdom’ yw’r endid. Efallai mae’r argymelliadau cyfrifon yn rhan o strategaeth busnes Twitter hefyd achos maen nhw yn gallu cynnig pethau i’r cyfrifon hynny.

18 sylw

  1. validation / verification
    Gweld bod “dilysu” wedi’u cynnig ar gyfer y ddau derm.

    Fyddai “cadarnhad” yn gwneud ar gyfer “validation” = Noun. A proof of accuracy and legitimacy.
    A “dilysu” (neu ffurf arno) ar gyfer “verification” = Noun. A process whereby a user’s Twitter account is stamped to show that a legitimate source is authoring the account’s Tweets.

    Anodd gwybod weithiau hefyd pryd i ddefnyddio “enw” (noun) a phryd i ddefnyddio berfenw – Mae’r Gymraeg yn fwy tueddol na’r Saesneg o ddefnyddio berfenwau

  2. Os ‘Sbam’ yw ‘Spam’ yn hytrach na ‘Sothach’ neu debyg yna dylai ‘Report as Spam’ fod yn ‘Nodi fel Sbam’ yn hytrach na ‘Nodi fel Sothach’. Mae engreifftiau arall tebyg.

  3. Dim ond y glosari prif dermau sydd ar gael i’w cyfieithu ar hyn o bryd. Dyna pam bod cyn lleied. Byddan nhw wedyn yn agor fyny ar gyfer yr holl sdwff boring fel Telerau ac Amodau ac FAQs.

  4. Sian, allet ti cynnig y ddau gyda dy gyfrif? Mae gen ti enw da am gyfieithu – mwy o ‘gadarnhad’. 🙂

    Rhodri, ah ha. Dw i wedi diweddaru’r cofnod.

  5. Mae na sianel IRC (#TwitterCy) eisoes yn agored i sgwrsio ar y gweinydd irc.freenode.org – yr un mae Twitter yn defnyddio.

    I’w agor, defnyddiwr ChatZilla gyda Firefox, AndroIRC ar Android, neu cleient IRC arall.

  6. Dafydd, dw i’n cael problem hefyd. Mae’n ddweud bod Rhodri wedi cynnig ‘Trydariad’ ond yn gwrthod derbyn fy mhleidlais.

  7. Gwych.. mae’n bosib cyfieithu Twitter 3 mlynedd ar ôl ei anterth, ac wrth iddyn ddechrau ar y gwaith o’i wneud yn amherthnasol. Synnu hefyd pa mor wael yw’r system gyfieithu ar ôl ei ddatblygu dros dair blynedd.

  8. Ma’r system yn hollol crap o’i gymharu a rhwyddineb un Facebook.

    Rysait da am clownsourcing!! O’n i’n clywed bod y Basgiaid a’r Catalaniaid wedi bod yn anhapus iawn efo’r broses gyfieithu hefyd.

    A bod yn gwbl onest, fasa lot gwell gen i gael cyfieithu Eventbrite na Twitter, ond er pledio a phledio mae’n nhw’n dweud nad oes ‘roadmap’ ar gyfer cyfieithiadau pellach ar hyn o bryd.

  9. Un peth sy ddim yn iawn ar gyfer verification/verify ydi “gwirio” ond dyma sy’n mynd â hi ar y funud; a’r afiach ‘gwireddiad’!

    Sylwi bod ‘na duedd i ddefnyddio ‘ti’ – ddim yn licio hwn o gwbl, ma’n swnio’n blentynnaidd imi, a dw i’m isio gwefan yn deud ‘ti’ arna i chwaith!

  10. Ma twitter reit anoying, ma tudalen y Robot ryn deud ‘Diolch am sylwi were mynd i atgyweriri….blahblah’ yma constantly dod popio fynnu pan dwi trio neud petha a pan dwisho postio yn y fforwm.
    Wedi sylwi hefyd bod y Ieithoedd mawr fel Sbaeneg efo pobol wedi eu cyflogi i helpu efo’r cyfieithiad.. ond dim y ieithoedd bach, twitter werth 11 biliwn, cwilydd rili bo nhw methu cyflogi un person i helpu efo hyn!

Mae'r sylwadau wedi cau.