Sawl tafarn sydd yn Gaernarfon? 2 yn ôl Apple.

Neithiwr fe lawr-lwythais iOS 6 i fy iPad ag fy iPhone. Y newid mwyaf oedd yn dod gyda’r diweddariad yma oedd y ffaith fod Apple yn cael gwared o Google fel eu system mapio ac yn creu un eu hyn.

Roedd gennai ddim llawer o ffydd y fydd Apple yn poeni am ein cornel bach ni o’r byd, ag mi o’n i’n iawn i boeni. Mi es yn syth i Gaernarfon ar y Maps app, a newid i ‘Satellite’ view, ddim byd ond blur mawr. OK fe allai fyw efo hyn (dio ddim yn hir ers i Google ychwanegu Caernarfon efo lluniau da). Wedyn fe drïais be fysa pob Cofi yn ei neud, teipio ‘Pub’ yn y search. Fe aeth y map yn syth i fyny allan o Gaernarfon i ddangos rhan fwyaf o Gogledd Cymru i mi a dweud mai Tŷ Isaf ym Methesda oedd yr un agosaf! …ok, mi driai ‘Bar’, gan mai term Americanaidd ydi o, a dyna ni The Harp Inn (yn y lle anghywir) a Bar Llywelyn (sydd ddim yn bodoli ddim mwy).

Apple Maps Caernarfon - iOS 6

Mi trïais i yr un peth yn yr hen ‘Maps’ app o iOS 5 wedyn a gefais llawer mwy o ganlyniadau am ‘Pub’.

Google Maps Caernarfon - iOS 5

Wrth gwrs di’r problem yma ddim yn unig yn Gaernarfon, mae Gizmodo UK wedi ysgrifennu am problemau trwy Lloegr, a mae’r Guardian wedi darganfod maes awyr newydd yn Dublin.

Rwyf wedi ffeindio yn Aberystwyth fod Woolworths dal yn bodoli a fod y gorsaf trên wedi mynd!

Mae Apple yn defnyddio llawer ffynhonnell ddata i creu y mapiau yma, un ohonynt yw Yelp, ag er fod Yelp yn dangos llawer o fusnesau yn Gaernarfon tydi nhw ddim yn dod i’r golwg ar y map!?

Wrthgwrs mae Google wedi bod yn creu eu mapiau ers 2005 a da ni i gyd wedi eu helpu nhw i adeiladu y bas data anferth yma. Felly mae yr opsiwn genom ni rŵan i helpu Apple adeiladu eu bas data nhw i wella y mapiau trwy Gymru a Prydain. Felly os yw eich busnes chi neu eich hoff lle yfed ddim ar y map, gyrrwch neges i Apple, mae na ddau ffordd o wneud hyn; Ar waelod y map mae y gornel ar y dde yn troi i fyny ychydig, cliciwch arno, wedyn cliciwch ar ‘Report a problem’ mae llawer o opsiynau wedyn. Os mae problem efo rhywbeth sydd ar y map yn barod, ar ôl clicio ar yr ‘i’ ar y symbol mae na fotwm ‘Report a Problem’ yna hefyd.

Y gobaith gennai, os allwn cael digon o pobl o Gymru yn cwyno y bydd nhw’n cymeryd sylw.

Diweddariad: Apple yn ymateb i helynt y mapiau


O.N. Na, does na ddim chance fy mod am symud i Android dim ond am y map. Mae hyn yn creu cystadleuaeth dda i Google i gario mlaen i wella eu mapiau nhw hefyd.

O.O.N. Mae gweddill system y mapiau yn wych, mae’r 3D yn Llundain a Manceinion yn anhygoel! Mae nhw wedi troi y mynyddoedd ym Mlaenau Ffestiniog a Dyffryn Conwy i 3D hefyd – random – Mi gai gyfle i drio y ‘Sat-nav’ fory

4 sylw

  1. Mae OpenStreetMap yn rhan o’r technoleg mae Apple yn ei ddefnyddio i greu eu mapiau

Mae'r sylwadau wedi cau.