Arbenigedd cyfrifiadurol Prifysgol Glyndŵr i lunio cenhedlaeth newydd o raglenwyr

Dyma stori o adran newyddion gwefan Prifysgol Glyndŵr:

Bydd gwyddonwyr cyfrifiadurol o Brifysgol Glyndŵr yn dysgu rhaglennu cyfrifiadurol i ddisgyblion o saith ysgol yng ngogledd Cymru ar ôl ennill gwobr addysg o fri. 

Mae’r brifysgol yn un o ddim ond 31 corff yn y DU, a’r unig un yng Nghymru, i dderbyn Bwrsari Addysg gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS).

Eleni fe ymgeisiodd dros 200 o sefydliadau addysg am un o’r bwrsarïau, a lansiwyd gan y BCS i nodi canmlwyddiant genedigaeth Alan Turing, un o sefydlwyr cyfrifiadureg.

Bydd y wobr, sy’n werth £1000, yn ariannu rhaglen allanol a fydd yn gweld ysgolheigion o’r brifysgol yn ymweld ag ysgolion yn Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint mewn partneriaeth â Techniquest Glyndŵr.

Gan ddefnyddio robotiaid Lego o Techniquest, bydd disgyblion yn cael eu dysgu am hanfodion gorchmynion cyfrifiadol ac yn gweld sut mae codau cyfrifiaduron yn effeithio’r modd y mae robotiaid yn gweithredu a symud.

Yna gosodir her i’r disgyblion dros hyn a hyn o wythnosau, gyda’r cyfle i ddiweddaru eu gwaith a dilyn eu cynnydd trwy wefan a fydd yn cydfynd â’r prosiect.

Meddai’r Athro Vic Grout, arweinydd academaidd ar gyfer cyfrifiadura ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Mae gwobrau gan y BCS yn eithriadol o anodd i’w cael gan fod y cystadlu mor ffyrnig, felly mae hyn yn newyddion ardderchog i’r brifysgol.”

Bydd y prosiect yn cydfynd â rôl Prifysgol Glyndŵr fel canolfan gogledd Gymru ar gyfer Cyfrifiadura mewn Ysgolion, cynllun wedi’i gefnogi gan y BCS gyda’r nod o hyrwyddo dysgu cyfrifiadureg mewn ysgolion.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr ysgrifennydd addysg Michael Gove archwiliad radical o’r cwricwlwm cyfrifiadura mewn ysgolion, gyda phwyslais cryfach ar gyfrifiadureg yn hytrach na thechnoleg gwybodaeth.

Ychwanegodd yr Athro Grout: “Am yr 20 mlynedd diwethaf nid ydym wedi bod yn dysgu cyfrifiadureg iawn mewn ysgolion ac mae wedi bod yn drychinebus. Mae’r DU ar ôl gweddill y byd yn hyn o beth. Yn awr ein bod yn gweithio tuag at ddysgu rhaglennu a sgiliau cyfrifiadura allweddol eraill ar lefel TGAU, bydd y diwydiant i gyd yn elwa.

“Bydd gan ddisgyblion sgiliau uwch yn lefel-A hefyd, ac yna, pan fyddant yn dod atom ni, byddwn yn gallu dysgu sgiliau lefel uwch eto – cynhyrchu graddedigion profiadol â’r cymwysterau cywir, ac yn barod ar gyfer y gweithle.”