Cyfres @Bryns ar dechnoleg ar flog Golwg360

Mae cyfaill Hacio’r Iaith Bryn Salisbury wedi dechrau sgwennu cyfres ddifyr iawn o erthyglau ar flog Golwg360 am dechnoleg.

Un peth sy’n biti mawr efo blog Golwg ydi bod dim un o’r cofnodion yn gwneud y dudalen flaen felly dwi’n amau os ydi llawer o’r darllenwyr cyffredinol yn eu gweld nhw. Dwi’n sicr yn methu llawer o bethau yno yr hoffwn i eu darllen.

Mae’n rhoi’r agraff, nid ar bwrpas dwi’n siwr, bod y cofnodion blog yn eilradd rywsut er eu bod nhw llawn cystal darlleniad (os nad gwell!) na llawer i erthygl sy’n cyrraedd y dudalen flaen.

Plis G360 – allwch chi roi mwy o degwch i’ch blogiau!

10 sylw

  1. Wow, dw i’n ymweld a gwefan G360 yn ddyddiol fwy neu lai, weithiau sawl gwaith mewn diwrnod, ond byth wedi gweld dim un o’r cofnodion hyn.

    O glicio ar ei enw o restr cyfranwyr blogiau: http://www.golwg360.com/blog/bryn-salisbury mae wedi sgwennu sawl cofnod ddiddorol, ac wedi bod wrthi ers mis Mehefin!

    Ond stwff da iawn, a diolch i G360.

    Oes modd tynnu RSS allan o’r URL at gyfraniadau Bryn a’u gosod yn y golofn dde yma?

  2. Mae modd cael ffrwd RSS o awduron WordPress fel arfer drwy roi /feed/ ar ddiwedd yr URL sydd yn dangos holl gofnodion yr awdur, ond efallai achos bod y blog wedi ei ymgorffori mewn i URL G360 bod hyn ddim yn gweithio. Dwi’n siwr bod modd gwneud yn weddol syml os fasan nhw’n mynd mewn i’r côd.

  3. “Un peth sy’n biti mawr efo blog Golwg ydi bod dim un o’r cofnodion yn gwneud y dudalen flaen felly dwi’n amau os ydi llawer o’r darllenwyr cyffredinol yn eu gweld nhw. Dwi’n sicr yn methu llawer o bethau yno yr hoffwn i eu darllen.

    Mae’n rhoi’r agraff, nid ar bwrpas dwi’n siwr, bod y cofnodion blog yn eilradd rywsut er eu bod nhw llawn cystal darlleniad (os nad gwell!) na llawer i erthygl sy’n cyrraedd y dudalen flaen.”

    Y broblem yw mai dim ond hyn a hyn allet ti ei wasgu i mewn i’r dudalen flaen. Os wyt ti’n rhoi blogiau rywle ar y brig fel bod pobol yn eu gweld nhw, ti’n gwthio pethau eraill oddi yno. Yn anffodus dyw lot o bobol ddim yn crwydro tu hwnt i’r dudalen flaen ac felly dydyn nhw ddim yn gweld yr holl gynnwys arall sydd ar y wefan.

    Mae’r dudlen flaen wedi ei drefnu yn ol pa gynnwys sy’n tueddu i ddenu’r mwyaf o ddarllenwyr, a pa adrannau sy’n tueddi i fod mwyaf bywiog o ran cynnwys, felly Cymru > newyddion gweddill y byd > stwff celfyddydau > stwff chwaraeon.

    Mae yna lot o bobol yn darlen blogs unigol, ond oherwydd bod prif ffocws staff y wefan ar yr ochor newyddion does dim cymaint a hynny o flogiau’n cael eu cyhoeddi,* felly isel iawn yw nifer darllenwyr yr adran blogiau yn ei gyfanrwydd o;i gymharu gyda’r adrannau mwy bywiog (alet ti ddadlau bod hyn yn ryw fath o Catch-22, ond dyna ni mae’n rhaid blaenoriaethu rhwyle!). Byddai unrhyw adran blogiau ar y dudalen flaen yn eitha statig. Dyna pam bod angen gwefan arall sy’n canolbwyntio ar stwff barn yn unig a sydd heb ei ariannu’n gyhoeddus (fel bod mwy o le i fod yn cheeky a gofyn am gyfraniadau am ddim), a gadael i Golwg ganolbwyntio ar y newyddion yn llawn amser, yn fy nhyb i.

    *Mae’r blog wedi bod yn eitha prysur dros yr wythnosau diwethaf, ond mae’n gallu bod yn eitha marwaidd ar adegau!

  4. Gyda llaw mae’n braf i weld gymaint o fideos Golwg360 ar y blog eleni. Mae 10 fideo o’r Steddfod dw i’n meddwl. Ond mae angen hyrwyddo nhw!

  5. Dwi’n anghytuno yn eitha sylfaenol efo dy awgrym y dylia Golwg360 ganolbwyntio ar newyddion yn unig. Mae barn yn rhan bwysig o bob darpariaeth newyddion. Mae pobol yn prynu a darllen am y colofnwyr yn aml iawn. Teimlo i fi fel bod G360 yn methu tric mawr iawn. A pham bod rhaid cael un wefan barn? Faswn i’n deud bod lle i G360 wneud *a* chael gwefan barn ar wahan. Mae’n nhw am roi lle i farn gwahanol.

    Os gall ddarparwyr newyddion eraill fel y Guardian, BBC, roi dolenni i flogiau a cholofnau ar eu tudalen flaen yna dwi ddim yn meddwl taw real estate sgrin yw’r broblem. Mater o ddylunio ia ddim?

  6. Fe ddylai Golwg360 hyrwyddo cofnodion blog o’r dudalen flaen a peidio gwahaniaethu rhyngddynt a “erthyglau” newyddion (mae’n anodd galw eitemau tri paragraff yn newyddion ond dyna ni). Dyma be mae wefan y BBC yn wneud gyda eu erthyglau ‘cylchgrawn’ wythnosol. Yn amlwg does gan Golwg ddim cyfrannwyr cyson, proffesiynol i’r blog, felly os nad oes cofnodion blog yn yr wythnos ddiwethaf, fase dim angen dolen.

    Mae’n dda cael y fideos, ond does dim gair o esboniad na cyflwyniad yn y cofnodion hynny. Dim ond un neu ddau baragraff sy eisiau.

  7. “Dwi’n anghytuno yn eitha sylfaenol efo dy awgrym y dylia Golwg360 ganolbwyntio ar newyddion yn unig.”

    Sori nawr dw i’n gweld dy ymateb. Dw i’n cytuno y byddai yn wych petai modd i Golwg 360 fuddsoddi mewn mwy o stwff barn. Yn anffodus ychydig iawn o adnoddau sydd gan Golwg 360 o’i gymharu gyda e.e. y BBC a’r Guardian. Mae’r holl adnoddau bron yn cael eu gwario ar yr ochor newyddion (sydd, fel y mae DT yn ei agwrymu uchod, angen mwy o adnoddau os rywbeth). Os fydden nhw’n penderfynu buddosoddi mwy mewn stwff barn byddai rhaid buddsoddi llai yn y stwff newyddion. O ystyried yr adnoddau sydd ar gael i’r cwmni, dw i’n credu ei fod yn well ceisio sicrhau gwasanaeth newyddion o safon na ‘taenu’r menyn yn rhy denau’ wrth geisio gwneud ychydig o bopeth, a gwneud hynny’n wael.

  8. Mae rhai blogwyr yn gwirfoddoli, mae rhai yn disgwyl taliad. Ond prynu amser mae’r buddsoddid, yn fwy na’r arian i dalu cyfranwyr. Hyd yn oed os oes rhywun yn fodlon cyfrannu am ddim mae angen rhywun i drefnu i gysylltu ag o i ofyn am flog a dewis y pwnc a ballu / golygu’r deunydd / sortio llun / ei gyhoeddi, ayyb. Does gan olygydd sy’n delio efo 30+ o straeon y dydd, a gohebwyr sy’n gwneud 10+ straeon y dydd, ddim amser i fod yn hel cyfrannwyr i’r blog drwy’r dydd. Roeddwn i’n arfer sgwennu lot o flogiau pan oeddwn i yno, ond hynny yn ystod yr awr ginio gan amlaf, gan nad oedd amser fel arall!

Mae'r sylwadau wedi cau.