Cyfrannu at Wicipedia Cymraeg #steddfod2012

Ces i sgwrs gydag ymwelydd i’r babell Hacio’r Iaith / Gŵyl Dechnoleg Gymraeg prynhawn yma, Iolo Ceredig Jones. Tra roedden ni’n trafod Wicipedia siaradodd e am ei gyrfa fel chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol ar ran Cymru. Felly cawson ni’r cyfle i ddiweddaru’r dudalen amdano fe ar Wicipedia Cymraeg gyda llun o du allan i’r babell!

Mae’r sesiwn Wicipedia Cymraeg yn dechrau prynhawn yma o 3YP ymlaen (yn y Cefnlen).

4 sylw

  1. Ia wir, stori dda. Hefyd, o edrych ar dudalenau ‘enwogion’ Cymru, does braidd dim lluniau arnynt. Felly beth am fantiesio ar y ffaith bod bron iawn i bob seleb Cymraeg gwerth ei halen yn mynd i fod ar y Maes rhyw bryd neu gilydd a thynnu eu lluniau a’u huwchlwytho ar Wicipedia.

    Sdim llun o Hywel Gwynfryn gyda ni hyd yn oed!

    Dyma rai syniadau i chi o lle gall fylchau fodoli:
    http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Cyflwynwyr_radio_Cymreig
    http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Cerddorion_Cymreig
    http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Gwleidyddion_Cymreig
    http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Actorion_Cymreig

Mae'r sylwadau wedi cau.