96% o Gartrefi a Busnesau Cymru am cael Rhyngrwyd ffeibr erbyn 2015!

Newyddion da i Gymru o’r diwedd:

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi manylion bargen newydd â BT gyda’r amcan fydd 96 y cant o gartrefi a busnesau Cymru yn gallu manteisio ar Band Eang y Genhedlaeth Nesaf erbyn diwedd 2015.

Mae nhw am fuddsoddi £425 miliwn i fewn i band eang trwy Cymru.

Am rhyw reswm dwi’n ffeindio hyn yn anodd iawn i goelio/brosesu. Mi fydd ei’n gwlad bach ni gyda un o gysylltiadau gorau yn y byd!