Awesome Foundation Cymru?

http://www.awesomefoundation.org/

We are an ever-growing, worldwide network of people devoted to forwarding the interest of awesomeness in the universe. Created in the long hot summer days of 2009 in Boston, the Foundation distributes a series of monthly $1,000 grants to projects and their creators. The money is pooled together from the coffers of ten or so self-organizing “micro-trustees” and given upfront in cash, check, or gold doubloons. The chapters are autonomous and organized by the trustees around geographic areas or topics of interest.

The Foundation provides these grants with no strings attached and claims no ownership over the projects it supports. It is, in the words of one of our trustees, a micro-genius grant for flashes of micro-brilliance.

Dwi rili isio dechra un o rhain yng Nghymru. Pwy fasa’n lecio helpu fi i drio gneud un am 6 mis i weld tasa’n gweithio? Fasa ange ffeindio 10 ymddiriedolwr fasa’n fodlon gwario £100 y mis am 6 mis…ella sa ni’n gallu gneud o’n £50 gan bod $1 yn £0.64 ar hyn o bryd. Bach o pwsh cael £100 gan rywun bob mis. Beth bynnag, manylion yw rheiny! Pwy sy mewn?!

23 sylw

  1. Huw, mae VCs yn cymryd cyfranddaliadau ym menterau. Fydd y sefydliad yma ddim yn cymryd perchnogaeth dros y mentrau/prosiectau.

    Basai sefydliad grantiau sy’n annibynnol o’r sector cyhoeddus yn ddiddorol iawn fel arbrawf! Dw i eisiau cyfranogi ond basai pob dwy fis yn haws ar y poced – ar hyn o bryd.

  2. Sdim perchnogaeth dros brosiect, yr unig beth ma ymddiriedolwyr yn disgwyl ydi adroddiad byr am be ddigwyddodd. Sdim arlliw o venture capital iddo fo! Jest yn ffordd o gael grantiau i fentrau neu unigolion ossym fasa falle ddim isio neu ddim yn gallu mynd i’r pwrs cyhoeddus.

  3. Dim bod dwi’n gwrthod, ond hoffwn i glywed mwy am syniadau posib cyn rhoi pres. Beth fedrai ddisgwyl i ddigwydd? Oes unigolion/grwp mewn golwg ar hyn o bryd?

  4. Diolch Huw! 2 lawr…8 i fynd.

    Bydd yn gyfle hollol unigryw i wneud i bethau creadigol, cymunedol, neu gymdeithasol ddigwydd yn sydyn, rhywbeth sydd ar goll yn y byd Cymraeg arlein (er sdim rhaid iddo fod arlein – bydd fyny i’r buddsoddwyr benderfynu beth yw’r ffocws penodol).

  5. Wi’n fodlon gwneud. Ma rhywbeth fel hyn wedi bod yng nghefn fy meddwl ers amser, ond wi heb gael yr amser (na’r wmff!) i wneud dim amdano, felly da iawn Nwdls, a phob nerth i dy fraich! Wyt ti wedi edrych ar bethau fel Enterprise investment schemes sydd yn caniatau i chi osod rhai buddsoddiadau yn erbyn treth incwm? Hefyd, tybed fyddai diddordeb gyda chyfrandalwyr Dyddiol Cyf (Rhiant-gwmni Y Byd) i gyfrannu peth o’r arian sydd dal yn y cwmni hwnnw at gynllun o’r fath.

  6. Diolch Iestyn! 5 i fynd!

    Dwisio gneud un peth yn eitha clir, dydi hwn ddim yn enterprise investment, nac yn venture capital. Sail y syniad yw bod o’n ffordd wahanol o roi arian i brosiectau, lle nad oes unrhyw ofynion pellach na gwario’r arian ar y derbynnydd. Yr unig criteria yn ol syniad gwreiddiol yr awesome foundation ydi bod y prosiect yn ossym! Gallwn ni benderfyniu ar y dechrau os ydan ni isio iddo fo fod ar gyfer prosiectau Cymraeg yn unig, i Gymru yn gyffredinol, neu ar gyfer rhyw fath o thema arall (mae na rai wedi bod ar gyfer gwyddoniaeth neu bynciau penodol o’r blaen dwi’n meddwl). Dwi’n credu byddai’n gwneud synnwyr i ni gadw at brosiectau sy’n ymwneud a’r Gymraeg mewn rhyw ffordd. Mae perffaith hawl gan unrhywun arall yng Nghymru i wneud un cyffredinol i Gymru neu ddinas os ma nhw isio.

  7. Mae @bryns wedi cytuno i fod yn ymddiriedolwr rhif 6! Diolch Bryn!

    Be am enw Cymraeg: Cronfa Wychder Cymru?

  8. syniad gwych – mwy o stwff fel hyn sydd eisiau. dyna oedd un o syniadau sylfaenol Y Byd wrth gwrs. Mi wna i.

  9. Na, allwn ni ddim yn anffodus Col. Rhaid iddo fod yn 10 person a rhaid i’r peth fod mor syml â phosib felly £50 i bawb, dim mwy dim llai. Roedd cangen Llunain o’r Awesome Foundation on gofyn £100 y mis gan ymddiredolwyr felly da ni’n gwneud o am hanner y pris a rhaid i ni fod efo swm sydd yn werth ei gael. Bydda £500 yn rhoi hwb mawr i nifer fawr o unigolion a grwpiau i gael pethau gwych i ddigwydd.

  10. Gwych! Diolch Elin.

    @Huw (sori, aeth dy neges ddwetha i’r bin sbam am ryw reswm)

    Y syniad ydi bod 10 person yn rhoi arian o flaen llaw, ac yn dod i gytundeb ar ba gais i’w wario arno gyda’i gilydd bob mis. Does dim unigolion na phrosiectau mewn golwg ar hyn o bryd. Rhan o’r hwyl o fuddsoddi fydd gweld beth fydd yn dod trwodd bob mis. Unwaith bydd 10 ymddiridolwr mewn lle byddwn ni’n cyhoeddi dyddiad cau ar gyfer ceisiadau a chymryd hi o fanna. Fasa na ddim lot o ganllawiau (ma’n debyg taw’r unig un i ni fasa bod y prosiect yn un Cymraeg neu ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg), a dim lot o ofyn ar yr ymgeiswyr – mond bod y prosiect yn un gwych! Os nad oes cytundeb bod cais sy’n werth ariannu yna ma’r broses ceisiadau’n ail agor eto. Sdim byd o hyn wedi cael ei gytuno eto cofia, a dwi’n meddwl na jest y syniad o allu rhoi arian at bethau mewn ffordd unigryw, rhydd a hyblyg sy’n apelio. Rhyw fath o Kickstarter Cymraeg ar raddfa fychan iawn.

  11. @Colin/Rhodri

    Dallt y rhesymeg Rhodri, ond mae’r esgid braidd yn dynn ar hyn o bryd. Fyddai modd i fi a Colin (neu rhywun arall) fynd hanner/hanner dweder, a mynd dan yr enw Rhys Nosworthy and Colin Wynne ar y panel/Hall of Fame?

  12. A dweud y gwir dwi’n meddwl dylen ni drio cael tair merch yn y llefydd sydd ar ol, er cydbwysedd, a chadw rhestr aros os mae rhagor o bobol dal eisiau dod yn ymddiriedolwyr ar ol hynny. Os mae un person yn penderfynu gadael yna gallwn ni lenwi’r slot yna’n hawdd wedyn.

    Os ma hwn yn gweithio, a sdim rheswm pam na wnaiff, yna mae modd ehangu’r syniad i fod yn fodel kickstarter go iawn, arlein lle gall pobol gyd-ariannu prosiectau gyda faint bynnag o arian ag y maen nhw isio. Ond am y tro, ac er mwyn cadw pethau’n hawdd i’w rheoli, dwi’n meddwl sa’n well cael un ymddiriedolwr, un cyfraniad.

    Ar y llaw arall, sdim angen i ni wybod lle mae’r ymddiriedolwr yna’n cael y pres at ei gilydd, os ti’n dallt fi. 😉

  13. Dallt yn iawn, ac yn cytuno bod eisiau trio cael cydbwysedd ymysg yr ymddiriedolwyr. (Ac hefyd yn fwy na bodlon ar hyn o bryd i ddal yn ol a bod ar restr aros!)

Mae'r sylwadau wedi cau.