“A oes data?” “…data?!”

Am ryw reswm dwi wedi cael rhyw chwilen yn fy mhen am ddarllen barddoniaeth yn ddiweddar. Dwi rioed wedi o’r blaen, ond mae prinder amser a wedi arwain fi i ddechrau chwilota. Fy mhroblem i ydi, a dwi di cael yr un broblem gyda jazz o’r blaen, ydi bod darganfod beth dwi’n lecio chydig yn annodd. Mi allwn i holi Twitter am argymhellion, ond mae’n rhaid bod na ffyrdd gwell o wneud hynny, efallai gan ddefnyddio algorithmau.

Ond wrth feddwl am hyn, nesh i feddwl oes na’r data ar gael i wneud rhedeg unrhyw algorithm yn werth chweil? Oes data gan Gwales efallai am bryniannau? Oes data gan S4C am Clic? Oes data gan Golwg360 am ddarllenwyr? Dwi’n amau taw na yw’r ateb gan nad oes gan yr un (heblaw falle Gwales?) systemau sydd yn tracio dewisiadau defnyddwyr.

Nid yn unig byddai hyn o werth wrth feddwl am ba gynnwys sy’n gweithio, mae’n hollbwysig ar gyfer personoleiddio cynnwys. Mae data defnyddwyr yn rhan greiddiol o strategaeth Channel 4, a’r BBC trwy BBC ID.

Gan nad oes neb wedi cymryd cam i’r cyfeiriad hwn eto, beth am gynnig syniad: be am gael rhyw fath o system defnyddwyr (fel OpenID efallai) sydd yn gallu cael ei osod fel dull mewngofnodi ar draws y we Gymraeg. Byddai wedyn ffordd o gael data meintiol mawr am ddefnyddwyr, a fyddai nid yn unig yn arf marchnata grymus (faint o bobol sydd ddim yn prynu deunydd Cymraeg am nad ydyn nhw wedi ffeindio’r peth ma nhw isio?), ond yn bwysicach yn arf ar gyfer hybu diwylliant drwy ffeindio ffyrdd newydd o gael pobol at be ma nhw isio.

Be chi’n feddwl? Breuddwyd ffwl?

5 sylw

  1. Rhodri,

    Rwy’n credu dy fod ti wedi rhoi dy fys ar real sanctaidd marchnata digidol! Y data hyn yw’r celloedd coch yng ngwaed Amazon, Yahoo, Google ac ati – h.y. ystadegau am dueddiadau ac arferion defnyddwyr sy’n caniatáu iddyn nhw ychwanegu gwerth at eu data ffeithiol drwy bersonoleiddio profiad y defnyddiwr ar un llaw, a thargedu hysbysebion atynt ar y llaw arall.

    Gymaint ag y byddwn i’n hoffi gweld dy syniad di’n casglu momentwm, rwy’n ofni fod hyd yn oed cwmnïau Cymru yn rhy fasnachol i fuddsoddi mewn systemau i gasglu’r data hyn ac yna ei rannu’n gyhoeddus.

  2. Data ynglyn a defnyddwyr ti’n meddwl yn hytrach na gwybodaeth gyffredinol ynglyn a pha dudalennau mae pobl yn eu darllen ia (h.y. yng nghyd destun G360)?

    Fel mae’n digwydd rydan ni wedi bod yn sbio ar Open ID yn ddiweddar ac yn gobeithio ei gyflwyno fel rhan o gynllun ehangach (newyddion lleol a ballu).

  3. @Nudd faswn i ddim o reidrwydd isio i’r cwmniau ei rannu’n gyhoeddus – dim ond efo’i gilydd! Ella bod hynny r’un mor annodd 😉

    @Owain Ia, data ynglyn â defnyddwyr o’n i ar ei ol. Arferion darllen, gwylio, prynu yn gymysg efo data dyfnach demograffyddol. Falch bod chi’n ystyried rhyw fath o gyfrifon defnyddwyr. Mae S4C hefyd dwi’n meddwl. Fasa hi ddim yn braf gallu cael cyfrifon sydd yn gweithio ar draws G360, S4C a chyrff eraill Cymraeg sy’n derbyn nawdd cyhoeddus? Fasa’n broffidiol i chi gyd dwi’n meddwl.

  4. Dwi’n meddwl mai Open ID neu debyg ydy’r cyfle gorau i gasglu’r math yma o wybodaeth – mae pobl yn fwy parod y rannu gwybodaeth bersonol ar gyfryngau fel Facebook a Twitter. Rydan ni hefyd yn edrych ar apps Open Graph Facebook i weld os ydy’n werth i ni ystyried mynd ar ol hyn.

  5. Mae gwefan Lleol.net wedi yn caniatau mewngofnodi drwy ddefnyddio Open ID. Efallai dylswn ni ychwanegu neges yn esbonio’r gwasanaeth yma. Fyddai’n braf cydweithio gyda gwefannau eraill er mwyn gwneud rhyw fath o hysbysebu’r rhwydwaith yma ar y cyd.

Mae'r sylwadau wedi cau.