Haclediad #19: Yr un efo’r iPads galore (a lot mwy yn amlwg!)

Da ni’n agosáu at yr 20 fawr, felly tan hynna mwynhewch rifyn eclectig 19 o’r Haclediad! Mis ‘ma bydd Sioned (@llef) Bryn (@bryns) ac Iestyn (@iestynx) yn trafod yr iPad 3 gan fod Bryn wedi cael un neu ddau, gwrandewch am y stori sut yn union ddigwyddodd hynny.

Cynlluniau ysbïo’r llywodraeth, a pha mor breifat bydd ein cysylltiadau ar-lein sy’ angen ? Bydd hyd yn oed MWY am e-lyfrau (ar gael o’ch llyfrgell leol nawr), saga barhaol y Windows Phone, a llwythi o fwydro amrywiol a difir technolegau arall, addo!

Diolch am lawrlwytho’r rhifyn yma, ymlaen at yr 20!

Dolenni

SNOOPIO Llywodraeth

Ble Mae’r Gymraeg

eLyfrau yn y Llyfrgell

3 sylw

  1. Diolch am y plyg Ble Mae’r Gymraeg?

    Ma’r holl beth yn eitha beta ar hyn o bryd, felly dwi’n siwr bod ffordd well o ddisgrifio be ydi o neu i eirio’tr categoriau. Dwi hefyd ddim yn siwr os ydi hi’n well cael y map fel clystyrau yn lle dots unigol. Fasa chydig o adborth ar hynny’n wych. Na’i flogio amdano fo yma’n fuan.

    Ma 35 cofnod wedi cyrraedd sydd yn reit galonogol dwi’n meddwl.

  2. Dw i’n gynorthwy’dd llyfrgell a felly dw i’n gwybod tipyn bach am y fater elyfrau ‘na (ond dw i ddim yn Nghymru). Meddwn i bod y peth gyda Bluefire a DRM i gyd allan o ddwylo llyfrgellau. Fel ddwedoch chi, dydy’r cyhoeddwyr ddim am bawb cael y llyfrau i gyd am ddim jyst achos bod rhyw lyfrgell wedi talu amdanyn nhw. Felly, mae nhw’n creu’r systemau ‘ma gyda benthyg ffeiliau a’u dileu nhw ar ôl wythnos fel lyfrgell ddiriaethol sy’n atal pobl rhag gwasgaru ffeiliau. Achos pe tasai’r llyfrgell yn medru prynu elyfr heb cyfyngiad benthyg a’i benthyg i gan neu fil o bobl ar yr un pryd, pam fyddai pobl yn prynu eu copiau eu hun? Byddai fel darllen gwefan neu rywbeth, jyst mynd i wefan y llyfrgell a chael y llyfr am ddim; neis iawn i ninnau ond problem i’r cwmniau i gyd. Hoffai llyfrgellau prynu elyfrau amherchenogol heb cyfyngiad, creda fi! Mae nhw’n talu trwy’r trwyn am y rhai cyfyngedig sydd ganddyn nhw rwan, yn ôl y bos. Ar gyhoeddwyr ydy’r bai, ond dw i’n dallt eu golwg nhw. S’gen i’m ateb chwaith.

    O ie – dw i’n caru’r Haclediad, yn wir. Diffyg podlediadau Cymraeg ofnadwy, ond dyma un grêt. Diolch!

Mae'r sylwadau wedi cau.