RIP BBC Cylchgrawn

Mae prinder o stwff diwylliannol ar y we Gymraeg fel y mae. Roedd BBC Cylchgrawn yn adran o ansawdd gydag amrywiaeth o stwff.

Nawr mae BBC newydd lladd yr adran. Mae cyfrannwr yn dweud:

Ers cyhoeddi’r lluniau llawen uchod, derbyniais air gan fy ngolygydd ar wefan BBC Cylchgrawn, Glyn Evans, yn diolch am fy nghyfraniad ac i fy hysbysu mai fy adolygiad o Hunky Dory fydd yr olaf i gael ei chyhoeddi, gan fod y gwybodusion wedi penderfynu yn dilyn y toriadau ariannol nad oes lle mwyach i BBC Cylchgrawn.

Bydd rhyw fath o ddatganiad swyddogol yn neis, hyd yn oed rhywbeth sy’n cyfeirio at y ‘diffyg galw’ fel pob un arall. Oes cynllun i ddarparu mwy mewn adran arall?

Ym mis Chwefror 2011 daeth BBC Chwaraeon i ben, fel newyddion rhyngwladol yn Gymraeg cyn hynny.

Mewn gwirionedd roedden nhw tri yn enghreifftiau o adrannau BBC dan-y-cownter. Maen nhw yn rhedeg ar hen systemau ac yn dioddef o ddiffyg cariad. Er enghraifft ar hyn o bryd rwyt ti’n gallu clicio I rannu dy hoff erthyglau Cylchgrawn ar Digg, Newsvine a NowPublic tra bod blaenoriaethau eraill fel Newyddion Arabeg yn mwynhau triniaeth llawn ar blatfformau cyfoes fel YouTube.

Pa mor wych fydd y wasanaeth pe tasen nhw yn rhoi mwy o gymorth a dolenni i adrannau Cymraeg?

Gweler y cartwn yma o 1968. Plus ça change, plus c’est la même chose.

2 sylw

  1. Ie, gwelais i hynna ar flog Lowri hefyd. Dw i wedi bod yn chwilio am ddatganiad hefyd. Mae’n adran gynhwysfawr iawn. Os mai diffyg galw ydy’r rheswm, sgwn i faint o defnydd sy’n cael ei wneud o dudalennau cyfatebol, sef Wales Arts ar wefan BBC Wales? Nid mod i eisiau gweld dirywiad yn y ddarpariaeth hynny chwaith, ond gweld mai ychydig iawn o sylwadau sy’n cael eu gadael ar y blogiau yno hefyd.

    Sylwais ar y golygiad yma ar erthygl un o’r papurau bro ar y Wicipedia yr wythnos yma, ble mae’r golygydd (di-enw) wedi gadael y sylw canlynol i esbonio’r golygiad:

    Lic (sic) wedi newid o bbc i facebook. Doedd bbc ddim yn diweddaru y dudalen

    Dw i’n cymryd bod y golygydd yr erthygl uchod yn rhywbeth i’w wneud gyda’r papur bro dan sylw. Sgwn i os ydyn nhw wedi bod yn gofyn i’r BBC ddiweddaru eu tudalennau nhw ar adran BBC Lleol i Mi ac wedi darparu’r cynnwys, a bod y BBC yn gwrthod gwneud?

Mae'r sylwadau wedi cau.