Hacio’r Iaith Bach – ydach chi am drefnu un?

Jest i ddilyn fyny ar ein galwad ar ddiwedd Hacio’r Iaith, roedden ni’n awyddus iawn i drafodaethau barhau drwy’r flwyddyn mewn cyfarfodydd / meetups llai o gwmpas y wlad. Felly, os da chi isio sgwrs efo pobol eraill am syniadau / eich busnes / neu am eich blog yna: pigwch ddyddiad, pigwch leoliad, a hysbysebwch o fama neu ar http://hedyn.net

Sdim rhaid iddo fod yn fawr, gall cyfarfod o ddau fod yn ddefnyddiol iawn i wyntyllu problemau neu syniadau.

2 sylw

  1. Ie, mae’n bwysig parhau’r sgwrs drwy’r flwyddyn a manteisio ar fomentwm (gobeithio) a grewyd gan Hacio’r Iaith 2012. Dyma flas o sut bethau mae Hacio’r Iaith Bychain y gorffenol wedi bod fel.

    Fel mae Rhodri’n dweud, sdim eisiau unrhyw drefnu. Yn y gorffenol, dw i ac un person arall wedi trefnu cwrdd mewn tafarn, wedyn taflu gwahoddiad i eraill ymuno a ni drwy Twitter. Hawdd.

    Os am gael bach mwy o griw, mae Doodle yn ddefnyddiol er mwyn sicrahu dyddiad sy’n addas i gymaint o bobl a phosib.

Mae'r sylwadau wedi cau.