e-lyfrau – pa ddyfais?

image

(mae lot mwy na Kindle!)

graff gan Delyth Prys

8 sylw

  1. Yw pawb yn gwybod bod ‘na lyfrau Cymraeg (gan Y Lolfa yn unig) ar gael ar y Kindle, nawr, yn y DU a’r UK (a’r Almaen, falle)? Mae ‘na rywbeth fel 15 o lyfr ar hyn o bryd. I rai sy’n tu fas o Gymru, dyma fendith!

  2. Fel athro uwchradd mae’r peth sy’n becso fi llawer am y gorymdaith at e-lyfrau yw’r diffyg sylw ar yr elfen glywedol i’r peth. Problem mwya dyslecsia yw diffyg clywed yr iaith lafar. Gyda’r Gymraeg mae’r broblem hon yn broblem waeth byth. Mae’n rhaid i blant glywed yr iaith os maen nhw’n datblygu sgiliau darllen digon da i ddarllen unrhywbeth o werth fel oedolyn yn y Gymraeg. Felly, yr APP mwya gwerthfawr yw’r un sy’n darparu llais i ddarlenn e-lyfr i ddysgwyr ac i blant mewn ardaloedd Seisnig.

  3. Yn syml 1pad2 ! Dyma ddewis cyntaf unrhyw ddisgybl ysgol.
    Mae Apple newydd gyhoeddi i tunes U ar gyfer Addysg.
    Mae’r gwerthiant wedi bod yn syfrdanol dros y misoedd diwethaf !

    ibooks author fydd y ffordd ymlaen i ddisgyblion ysgol App gwych steil !

  4. O ran fyng ngwaith mi fydd rhaid i mi brynu Kindle, Sony, Kobo ayb ar ran trio’r llyfrau arnynt. O safbwynt creu eLyfrau does dim gwell na iBooks ar yr iPad ar iPhone, fedrai’m disgwyl tan fydd dyfeisiadau eraill yn dechrau cefnogi ePub 3.

  5. Ond beth am yr anghenion addysg sy’n cael eu codi gan Stephen?

    Pa mor rhwydd yw cyfuno eLyfr a ‘chlywlyfr’, fel bod modd clywed llais, a darllen y text yr un pryd falle?

  6. Fel mae Robin yn ddweud, iPad ydi’r dewis gan ddisgyblion, ac mae iBooks Author yn ei gwneud hi’n rhwydd iawn i greu eLyfrau ar ei gyfer.

    Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn bosib creu eLyfrau drwy iBooks ar yr iPad ac iPhone.

    Mae modd creu eLyfr sy’n darllen yn weddol rhwydd. Engraifft dda yw’r llyfr Yellow Submarine sydd ar gael am ddim drwy’r iBookstore.

  7. “O safbwynt creu eLyfrau does dim gwell na iBooks ar yr iPad ar iPhone”
    Sori Gareth, dyliwn i di bod yn gliriach ac esbonio fod ddim gwell darllenydd na iBooks o ran cefnogaeth ePub 3, sydd yn fy ngalluogi fel crewr eLyfrau i greu rhywbeth fwy unigryw.

Mae'r sylwadau wedi cau.