Pwy fu farw ym 1941? Gwaith creadigol Cymraeg yn y parth cyhoeddus

Sgwennodd Carl gofnod llynedd oedd yn meddwl am ba waith Cymraeg oedd wedi dod i’r parth cyhoeddus. Yn y Saesneg eleni mae Virginia Woolf a James Joyce.

Yn ôl y Bywgraffiadur Ar-lein mae gwaith y personau Cymreig canlynol nawr yn rhydd o hawlfraint:

Mae Wicipedia hefyd yn cyfeirio at ambell un o’r rhain.
Dwi heb fod trwy’r bywgraffiadau eto i weld a oes unrhywbeth diddorol, ond dwi’n siwr bod ambell beth yno fyddai o werth ar gyfer ei ail-ddefnyddio / ail-gymysgu.
Sgwn i pa gynhyrchwyr ffilmiau fu farw ym 1941?

7 sylw

  1. Siawns bod rhywbeth o ddefnydd yna.

    Mae Wicipedia hefyd yn cyfeirio at ambell un o’r rhain.
    Drwg y Wicipedia, yn enwedig yr un Cymraeg, ydy chi’n dibynnu ar pobl yn categorieddio’n gywir/cyflawn. Fel mae’n digwydd mae Categori:Marwolaethau 1941 yn fwy cynhwysfawr na’r adran marwolaethau ar erthygl 1941. Fel arall mae hi yn 1942. Mae’n werth edrych ar y Wikipedia Saesneg hefyd, mae ganddynt dudalennau/erthyglau bob yn flwyddyn am Gymru’n unig. Gweler erthygl 1941 in Wales.

    Mae Alwyn ap Huw (Hen Rech Flin) newydd flogio am ddigideiddio ei hen lyfrau hefyd. Prosiect ar y cyd falle gyda rhywrai yma?

  2. Mae chync eitha mawr o ail bennod fy PhD (sydd ar gael dan CC) yn trafod syniadaeth D. Miall Edwards. Mae ei lyfr Iaith a Diwylliant yn ddiddorol (er nad ydw i’n cytuno a fe) byddai cael hwnna yn y parth cyhoeddus yn dda. Does gen i ddim copi personol i gynnig sganio yn anffodus – copi llyfrgell o ni’n defnyddio pan yn gwneud yr ymchwil. Mae’n lyfr gweddol brin dwi’n meddwl.

  3. Sdwff Edmund Jones yn swnio’n ddiddorol, beirniadaeth gelfyddydol a deunydd ar gyfer plant. Thomas Owen Jones hefyd.

  4. [Gyda llaw, ma na lwythi o ffilmiau Parth cyhoeddus / creative commons ar Archive.org gan gynnwys Horror Express, gyda Peter Cushing, Christohper Lee a Telly Savalas! Digon i gadw ailgymysgwr yn hapus am flynyddoedd]

Mae'r sylwadau wedi cau.