Dim cais .cymru o Gymru. Be ddigwyddodd?

Cefndir

Ar y 12fed o fis Ionawr 2012 bydd ICANN (sef, y cwmni nid-ar-elw sy’n cyfrifol am enwau parth ar y rhwngrwyd) yn dechrau’r broses o dderbyn ceisiadau o gwmpas y byd am barthau lefel-uchaf newydd sbon.

Er enghraifft mae’n debyg bydd cwmni Canon yn ceisio am .canon ac ati. Ac bydd dinas Berlin yn ceisio am .berlin
Wedyn, os fydd Berlin yn llwyddiannus bydd cofrestru museum.berlin, tresor.berlin neu marlenedietrich.berlin fel enwau parth yn bosib. Bydd cwmni yn Berlin (mwy na thebyg cwmni nid-ar-elw) sy’n gallu rheoli pa gwmnïau sy’n cynnig enwau parth i bobol.

Er bod lot o bobol yn defnyddio Facebook ac ati fel presenoldeb ar y we, enw parth ydy’r unig gyfeiriad sydd ddim yn dibynnu ar dynged cwmni preifat. Fel gwlad mae’r PLU (parth lefel-uchaf) yn elfen bwysig iawn o ‘frand’, hunaniaeth a diwylliant y wlad/perchenog. (Mae rhaid cyfaddef bod fy agwedd personol tuag at PLU i Gymru wedi newid – mae arwyddion a symbolau yn bwysig i Gymry.)

Fel rhan o unrhyw cais sy’n cysylltiedig â thiriogaeth mae ICANN eisiau gweld datganiad gan Llywodraeth y tiriogaeth. Mae Llywodraeth Cymru newydd dweud (mis yma) bod nhw yn fodlon cefnogi un cais yn unig am enw(au) parth i Gymru. Mae’r cyfle i sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn dod i ben ar y 6ed o fis Ionawr 2012. Does na ddim sôn am ffafrio geisiadau brodorol yn y hysbysiad GwerthiwchiGymru – mewn theori roedd y cyfle yn agored i unrhyw cwmni yn y byd (problem rhif 1?).

Mae’r gwendid yn y hysbysiad yn codi cwestiynau difrifol am fodlonrwydd y Llywodraeth i helpu cais brodorol ac i:

Grwp dotCYM oedd yr unig ymdrech brodorol i ymchwilio’r cyfle, datblygu cynllun, hyrwyddo’r syniad o .cymru. (Gyda llaw mae’r enw dotCYM yn dod o’r dyddiau pan roedden nhw eisiau sicrhau .cym i Gymru. Ond aeth y parth lefel-uchaf .cym i’r Cayman Islands.) Roedd y Llywodraeth clymblaid yn fodlon cefnogi ac ariannu dotCYM: mae’r cytundeb Cymru’n Un yn sôn am yr ymgyrch.

Yr wythnos hon

Ond mae’r agwedd y Llywodraeth wedi newid ers hynny. Aeth dotCYM i gynllun B trwy ofyn cwmnïau, sefydliadau, prifysgolion ac unigolion yng Nghymru i ariannu a chefnogi’r cais (gwnes i helpu gyda chynllun B). Gwnaethon nhw ddim llwyddo ac mae’r prosiect ar ben.

Nawr rydyn ni yn y sefyllfa lle mae’r cyfle i redeg .cymru a/neu .wales yng Nghymru bron wedi gorffen. Mae’n debyg bydd Nominet, cwmni yn Rhyduchen sy’n rhedeg .uk, yn anfon eu cais i’r Llywodraeth cyn y 6ed (gyda help Aled Eirug ac eraill) ac yn ennill y datganiad. Cofia bydd un datganiad o gefnogaeth yn unig.

Cwestiynau

Mae’r mater yn codi cwestiynau i fi:

Dyfodol .cymru

Efallai rydyn ni wedi colli cyfle i redeg ein enwau parth. Ond nawr mae angen ymgyrchu i fynnu bod ni eisiau cais .cymru (yn hytrach na, neu yn ogystal â .wales) os wyt ti’n meddwl bod .cymru yn bwysig.

Neu… os oes gyda ti £300,000 sbar i’w fuddsoddi cais i ICANN rwyt ti’n gallu helpu. Os mae’r cais yn llwyddiannus rwyt ti’n gallu cael dy arian yn ôl mewn blwyddyn neu dau. Plîs gadewch sylw ar unwaith neu ebostia maredudd@dotcym.org.

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.