Hacio’r Iaith 2012: 2 fis i fynd…35 wedi cofrestru.

Manylion ar y Wici: http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_Ionawr_2012#Cofrestru

Os ydych chi’n dod, ac yn meddwl cyflwyno am rhywbeth, yna fase’n help mawr petasech chi’n gallu sgwennu pwt ar y Wici yn dweud yn fras eich syniad. Am nad oes na raglen ffurfiol o flaen llaw, da ni’n dibynnu ar be ma bobol yn gweld ar y Wiki (a’r digwyddiadau cynt) fel enghreiftiau o be i’w ddisgwyl.

Hefyd, os da chi’n dda am PR/y wasg a rhyw bethau fel’na yna fasa’n gret cael eich help i rannu gwybodaeth am y digwyddiad. Dwi’n credu ei bod yn bwysig y tro yma bod pobol y tu hwnt i gymuned y we Gymraeg yn ffeindio allan am yr holl sdwff sy’n digwydd.