Trafodaeth ar hybu ieithoedd lleiafrifol ar y rhyngrwyd gan New Tactics, Rising Voices ac Indigenous Tweets

Werth rhoi dolen i hwn ar ei ben ei hun dwi’n meddwl:

http://www.newtactics.org/en/dialogue/using-citizen-media-tools-promote-under-represented-languages

Trafodaeth ddiddorol iawn yno, gyda llawer o safbwyntiau gwahanol ar bethau fel cynnwys, cynyddu defnydd, cymunedau, lleoleiddio, orthograffi, terminoleg, ayyb ayyb.

Dyw’r drafodaeth ond ar agor tan ddiwedd heddiw os ydych chi eisiau cyfrannu.

2 sylw

  1. Croeso Ifan. Hwn ydi un o’r unig lefydd arlein dwi wedi ei weld sydd wedi ceisio cael craidd o arbenigwyr at ei gilydd i ddechrau trafodaeth. Dim ond gobeithio nad one-off fydd o achos gallai o fod yn bwysig dwi’n teimlo, pe bai’n lle i rannu’n gyson ac llae mae rhywun yn gwybod bod na bobol sydd yn gweithio ar yr ochr gymunedol, ymarferol, ac academaidd yno.

    Mae Global Voices eisiau cael rhagor o straeon o Gymru ar eu gwefan, ond dwi wedi methu a chael yr amser i gyfrannu. Fyddai gen ti ddiddordeb?

Mae'r sylwadau wedi cau.