Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)

Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw), y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned, Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa, gyda’u gobeithion a chynlluniau nhw ar gyfer cyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Byddwn yna yn trafod lle mae hyn yn gadael gobeithion rhai am gyhoeddi agored Cymreig ar-lein, ond nid sioe llyfrau yn unig fydd hi peidiwch poeni! Mae’r Nokia Lumia 800 yn ein temtio, ynghyd â’r newyddion gwych am brosiect Radio’r Cymry a’n plyg traddodiadol i Hacio’r Iaith ym mis Ionawr, joiwch!

Dolenni