Cwestiwn Iestyn Garlick am Facebook a Chymraeg ar-lein

Cer i 1:38:00 lle mae Garlick yn sôn am ‘broblem ieithyddol ar-lein’ gyda Facebook, YouTube sydd ‘ddim yn cyfeillgar iawn i ddefnydd o Gymraeg’.

Mae fe’n siarad am 2-3 munud ond does dim ateb gyda fe. Felly beth yw’r ateb?

O’n i eisiau codi mwy o gwestiynau i gyfrannu i’r ‘ateb’! …

Oes problem ieithyddol ar-lein?

Beth yw dy brofiad o Facebook a Twitter fel person amlieithog? Oes angen ffiltro ieithyddol ar blatfformau cymdeithasol?

Sut ydyn ni’n delio gyda sefyllfa lle mae Facebook mor blaenllaw? Neu fydd y dyfodol yn gwahanol?

Ble mae’r ‘cymunedau Cymraeg ar-lein’ fel petai? Neu ydy’r delwedd yn hollol rong? (Oes ‘Fro’ ar-lein?)

Beth yw rôl gofodau uniaith Cymraeg ar y we, fel Golwg360, Fideobobdydd, Hacio’r Iaith, Y Twll, Metastwnsh a blogiau o bob math ac yn y blaen? Oedd gwersi Maes-e ac Usenet ayyb?

Fideo o’r grŵp Gorchwyl ar ddyfodol darlledu ar 3 Tachwedd 2011.