Euryn Ogwen Williams ‘Y Newid Mawr’ (testun llawn o ddarlith Eisteddfod 2011 am gyfryngau a darlledu)

Euryn Ogwen Williams yn ei Darlith Goffa Owen Edwards wythnos diwethaf:

.
.
Dyma’r trydydd tro i mi gael yr anrhydedd o draddodi darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y byd digidol. Y tro cyntaf oedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1998, a’r testun oedd “Byw ynghanol y Chwyldro”. Bryd hynny, rhywbeth i’r geeks oedd y byd digidol ac roedd nifer sylweddol yn y gynulleidfa yn credu mod i wedi “colli fy marblis”, a doedden nhw ddim yn swil o ddweud hynny! Ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, ffordd o feddwl oedd digidol – wedi ei gyfyngu i bobl ifanc a phobl fusnes. “Dim byd i’w wneud gyda ni”, oedd agwedd y sefydliad Cymreig bryd hynny. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mi gefais wahoddiad i wneud cyflwyniad yn Eisteddfod Caerdydd a’r testun oedd “Beth wnest ti yn y Chwyldro” Erbyn hynny roedd digidol wedi dod yn ffordd o fyw a’r byd yn newid wrth i’r mwyafrif fabwysiadu’r dechnoleg. Roedd y chwyldro bellach yn nwylo’r bobl. Yn y tair blynedd ers hynny, mae’r chwyldro wedi cyflymu ac mae’r defnydd o’r dechnoleg wedi ymdreiddio i bobman a dechrau creu ei chwyldro ei hun…

Y Newid Mawr gan Euryn Ogwen Williams, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 (PDF)

Dw i wedi rhoi’r testun llawn ar y we gyda chaniatâd yr awdur.

Bydd trafodaeth fanwl o’r ddarlith yma yn ddefnyddiol… Mae sylwadau isod ar agor. Mae’r we ar agor.

4 sylw

  1. Esboniad (testun) da, Carl. Mae Euryn Ogwen yn edrch ymlaen. ‘Rwy’n hoffi hynny. Mae’r sgwrs hefyd yn ymwneud ag S4C. Nid wyf yn gwybod beth yw’r dyfodol, os nad oes arian. 3D, HD?? – ‘Rwy’n defnyddio S4C/Clic. Dim amser i ysgrifennu mwy. Cwestiwn pwysig: beth fydd y dyfodol yn rhoi â’r Rhyngrwyd ac yn ein bywyd cymdeithasol ni nesa’. Credaf fod Cymru’n gwneud yn dda. Dim ond biti bod yna dim digon o fideos da gan S4C ar YouTube neu unrhyw ffilmiau Cymraeg allan o Gymru. Mae’r cyfryngau newydd yn rhoi mwy o help i’r iaith er enghraifft. Roedd cael sianel deledu S4C yn dda bryd hynny, erbyn hyn mae cyfryngau newydd yn bwysicach.

Mae'r sylwadau wedi cau.