Y Llyfrgell Brydeinig a Google

Mae’r Llyfrgell ‘Brydeinig’ (enw od yn Gymraeg) wedi cyhoeddi partneriaeth gyda Google i sganio 250,000 o lyfrau o gasgliad y Llyfrgell. Mi fydd y dogfennau yn cael eu dewis o’r cyfnod rhwng  1700 a 1870.

Newyddion da yn sicr  a dwi wedi gofyn o’r blaen pam nad yw Llyfrgell Cenedlaethol Cymru yn mynd i bartneriaeth gyda Google. Mae gan Google arbennigedd ddiguro am gasglu, didoli, trefnu a chadw gwybodaeth felly pam ddim cymryd mantais o hynny (gyda chytundeb fod y wybodaeth ar gael dan drwydded agored).

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.