S4C Clic – ap newydd i wylio rhaglennu ar alw ar iPhone

Mae S4C yn ymestyn yr arlwy teledu ac ar-lein wrth lansio ap iPhone i’w lawr lwytho am ddim, S4C Clic.

Bydd yr ap newydd, sydd ar gael o heddiw (Mawrth 10 Mai) ymlaen, yn galluogi gwylwyr i wylio rhaglenni S4C ar alw am hyd at 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf gyda gwasanaeth Clic.

Mae S4C Clic yn wasanaeth dwyieithog sydd hefyd yn cynnig gwe ddarlledu byw o’r arlwy teledu ac amserlen rhaglenni’r sianel ar yr iPhone.

Ar hyn o bryd, mae fersiynau o’r ap hefyd yn cael eu creu i’r iPad ac iPod Touch er mwyn eu rhyddhau maes o law.

Mae nifer y sesiynau gwylio ar wasanaeth ar-lein S4C, Clic, wedi gweld cynnydd o 98% yn ystod pedwar mis cyntaf 2011, i’w gymharu â’r un cyfnod yn 2010, gyda dros hanner miliwn yn defnyddio’r adnodd.

Nid dyma’r tro cyntaf i raglenni S4C ymestyn eu gwasanaeth i fyd technolegau newydd. Mae ap dyfeisgar a rhyngweithiol eisoes ar gael i hyrwyddo gwasanaethau plant a phobl ifanc S4C, Cyw a Stwnsh, am ddim. Mae ap Cyw yn cynnwys straeon, caneuon a gemau o fyd lliwgar Cyw, tra bod Stwnsh yn rhyddhau gemau newydd o’r wefan am ddim yn achlysurol.

Meddai Arshad Rasul, Cyfarwyddwr Darlledu a Dosbarthu S4C, “Mae ein gwasanaeth ar alw, Clic, yn hynod boblogaidd felly mae’n gam naturiol i’w gynnig ar ffurf ap. Mae lansio ap iPhone unwaith eto yn adlewyrchu ymrwymiad S4C i gynnig ein rhaglenni a’n gwasanaethau ar sawl platfform gwahanol.”

o ddatganiad heddiw.

Cer yma am yr ap
http://itunes.apple.com/gb/app/s4c-clic/id423550416?mt=8#

Unrhyw feddyliau cynnar?

5 sylw

  1. Ni’n edrych mewn i ddatblygu ap ar gyfer yr android ar hyn o bryd.

  2. Mae’n gweithio yn gret. Heb sylwi ar isdeitlau arno eto.
    Un peth sy’n fy siomi yw fod y botwm Airply yna ond dim ond ar gyfer sain mae o a nid fideo, Fysw’n llawer mwy tebygol o gwylio y rhagleni os fuasai Airplay yn gweithio’n iawn arno.
    Ddim i gael dadl Android v iOS ond yn fy myd bach tydi rhan fwyaf o pobl sydd efo ffonnau Android ddim yn lawrlwytho llawer o apps ond mae rhai iOS i gyd.

Mae'r sylwadau wedi cau.