201 blog Cymraeg ar Y Rhestr Hedyn… hyd yn hyn

Rydyn ni wedi bod yn gasglu blogiau Cymraeg yma:
http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_Cymraeg

Dw i newydd ychwanegu blog 201 felly rydyn ni yn y trydydd cant o flogiau.

Mae popeth dan gategorïau, e.e. Blog a sefydlwyd yn 2011, Blog am dechnoleg, Blog am gelf, Blog am ddysgu Cymraeg, Blog am wleidyddiaeth, Blog ar WordPress.com

Ydyn ni wedi colli unrhyw blogiau? Croeso i ti ychwanegu blogiau neu awgrymu blogiau isod.

Croeso i ti ail-ddefnyddio’r data am unrhyw beth. Bydd ffrydiau o gategorïau yn bosib, er enghraifft.

Diolch i Rhodri ap Dyfrig a Rhys Wynne am help. Diolch eto i Rhys am y syniad! Mae’n anodd ffeindio blogiau Cymraeg weithiau, yn enwedig y rhai diddorol o 2005 sy’n cysgu ayyb, felly mae’r Rhestr wedi bod yn help mawr.

2 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.