Blogiau newydd sbon yn 2011 – help!

Dim ond 9 blog a dechreuodd yn 2011 – hyd yn hyn? Disgwyl mwy! Unrhyw un yn gwybod?
http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_a_sefydlwyd_yn_2011

Gyda llaw oedd 2010 yn amser-bŵm i ddechrau blog – mae 21 ar Y Rhestr dan y categori Blog a sefydlwyd yn 2010 ar hyn o bryd. Er dydyn ni ddim wedi gorffen Y Rhestr eto..

4 sylw

  1. Waaaw, 163 blog hyd yma. Wyt ti wedi bod trwy pob un ar rhestr hedyn felly? Go dda. Af i’n ôl rwan a llenwi’r categoriau a trio meddwl am rai coll sydd wedyn syrthio drwy’r rhwyd a rhai dois ar draws ers creu rhestr ar Hedyn.

    Weeedyn, cawn ddechrau ar y ‘pie charts’ 🙂

    Sylwais i bod yn rhyw fatho ddadeni wedi bod yn 2010 heyf, plus dipyn o sefydliadau yn dechrau blogio hefyd, sy ond yn gallu bod yn beth da. Dw i’n priodoli hyn yn rhanol at sefydliadau yn creu strategaethau rhwydweithiau cymdeithasol o’r diwedd yn sgil poblogrwydd Twitter a FB, a bod byd y blogiau wedi elw o hyn. Beth chi’n feddwl – blogiau Cymraeg yn piggi-bacio ar gefn poblogrwydd yr union bethau sy wedi bod yn peryglu eu llwyddiant?

  2. 271 o flogiau ar Y Rhestr erbyn hyn, ac yn 6 mis cyntaf 2011, mae 45 blog wedi eu creu, o’i gymharu a 38 trwy gydol 2010. Addawol iawn.

Mae'r sylwadau wedi cau.