Anghynhadledd Talk About Local 2011: Caerdydd, 2 Ebrill

Os nad ydych wedi ymweld â gwefan Talk About Local eto, yna plîs gwnewch. Amcan y prosiect yw:

to give people in their communities a powerful online voice.  We help people communicate and campaign more effectively using the web to influence events in the places in which they live, work or play.  William Perrin talks here about how people have used the web to empower themselves in their communities.

Mae’r wefan yn llawn syniadau gwych am sut i greu gwefannau hyper-lleol, pa fath o gynnwys i’w roi, cyngor technegol a llawer mwy.  Eleni, mae eu anghynhadledd blynyddol (#TAL11) yn dod i Gaerdydd.

Dw i’n gobeithio daw tipyn syniadau o’r cynhadledd y gelli’r eu rhoi ar waith o fewn y we Gymraeg.  Fel sy wedi ei drafod sawl gwaith yn barod, prin yw presenoldeb gwefannau cymunedol Cymraeg a’r Papurau Bro. Mae prosiect diweddaraf Gareth Morlais, sef BaeColwyn.com yn chwa o awyr iach, ac mae wrthi’n arbrofi drwy dynnu cynnwys (a chynnwys Cymraeg ble’n bosib) o wefannau eraill i’w wefan ei hun – dyma faes hoffwn ddysgu  mwy amdano.

Mae’r tocynnau ar gyfer #TAL11 am ddim, ac ond yn cael eu rhyddhau mewn niferoedd cyfyngedig ar y tro. Dw i wedi gwneud cais a dw i ar restr aros. Os ydych am fynd, peidiwch a’i gadael hi’n rhy hir. Gobeithio y gwela i chi yna.

Diweddariad: Mwy  am y digwyddiad ar flog Talk About Local.

2 sylw

  1. Diolch am adael i ni wybod am TAL11 Rhys ( http://tal11.eventbrite.com/ )
    a diolch hefyd am dy eiriau caredig am baecolwyn.com, sydd yn dal yn eitha’ embryonig ond ti ‘di roi syniadau da i mi a dwi’n gobeithio dysgu mwy yn niwrnod ScraperWiki: Hacks and Hackers ar 11eg o Fawrth, Caerdydd.

Mae'r sylwadau wedi cau.