Hacio’r Iaith 2011: ydych chi am ddod? sut allwch chi helpu?

Bydd cynhadledd agored Hacio’r Iaith 2011 yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn y 29 Ionawr, yn Aberystwyth. Thema’r gynhadledd fel y llynedd yw technoleg, rhyngrwyd a iaith. Mae’r lleoliad, offer ac ati wedi ei gadarnhau felly yr unig beth sydd ar ôl rwan ydi i chi gofrestru a meddwl am rywbeth yr hoffech chi gyflwyno amdano.

Roedd digwyddiad llynedd yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 40 yn dod i Aber, a’r awyrgylch yn llawn egni a brwdfrydedd dros beth allwn ni wneud gyda thechnoleg yn yr iaith Gymraeg. Ar ôl blwyddyn ddigon negyddol, dwi’n meddwl ei bod yn andros o bwysig ein bod ni’n dathlu be sy’n dda ac yn trio torri trwy’r duwch gyda neges bositif.

Mae blwyddyn wedi mynd a dod ers y gynadledd agored gyntaf i gael ei chynnal yn y Gymraeg, ond mae llawer iawn o bethau wedi digwydd yn y cyfamser, gan gynnwys cynnal sawl Hacio’r Iaith Bach yng Nghaerdydd, Glyn Ebwy, Aberystwyth a Chaernarfon a heb anghofio bod y gynhadledd gyntaf wedi esgor ar y blog grŵp hwn sydd dal yn brysur iawn. Cofiwch gallwch chithau gyfrannu at y blog: jest cysylltwch a wnawn ni greu cyfrif i chi.

Mae’r drafodaeth yn parhau ar-lein, ond sdim byd tebyg i gyfarfod pobol wyneb yn wyneb, felly dewch i Aberystwyth i gael ail-egnio am y flwyddyn i ddod.

Oes ganddoch chi syniad am sesiwn?

Dyma’r dudalen lle bydd yr holl drefniadau yn ymddangos: http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_-_Ionawr_2011

Bydd y wici hefyd yn cael ei ddefnyddio i drefnu’r sesiynau, felly os oes ganddoch chi rywbeth i’w ddweud yna cynnigwch sesiwn yno. Ond mae croeso i chi adael sylw yma os nad ydych chi’n gyfforddus a defnyddio wicis. Byddwn ni’n hapus i’w ychwanegu drostoch chi.

Mae Hacio’r Iaith yn gynhadledd sy’n cael ei threfnu ar y cyd fodd bynnag, ac mae’n sefyll neu ddisgyn ar be mae’r cyfrannwyr yn rhoi mewn iddo. Mae angen eich syniadau, eich brwdfrydedd i gyflwyno sesiynau, help i hyrwyddo, noddi, neu wirfoddoli ar yr ochr dechnegol. Felly os gallwch chi gyfrannu mewn unrhyw ffordd – ac mae digon y gallwch wneud os na allwch chi fod yno – plis gwnewch hynny. Mae rhai awgrymiadau ar y wici.

Sut i gofrestru

I gofrestru gallwch un ai defnyddio gwasanaeth Lanyrd neu roi eich enw yn syth ar y Wiki.

Ar ôl cofrestru, rhannwch y ddolen at dudalen y digwyddiad i unrhywun rydych chi’n adnabod sydd â diddordeb yn y maes. Mae angen lledu’r gair. Diolch yn dalpau.

Edrych mlaen i’ch gweld chi ddiwedd y mis!

Yr eiddoch yn gywir,

Y Rhyngrwyd

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.