Dyddiadur a chynllunio 2011, beth wyt ti’n wneud?

Beth yw dy hoff “datrysiad” am gynllunio dy amser, apwyntiadau ayyb?

Dw i wedi bod yn hoff iawn o ddyddiadur papur. Technoleg dda, dim batris, gweledol. Mae’n neis cael fy nghynlluniau a’r cyfrifiadur/ffonau/dyfeisiau ar wahan.

Ond dw i’n bwriadu trio rhywbeth am y pythefnos cyntaf y flwyddyn. Google Calendar efallai? Mae’r dechrau’r flwyddyn yn cyfle am arbrofi. Bydda i barhau gyda’r dechnoleg – neu anghofio a phrynu dyddiadur wedyn.

3 sylw

  1. Google calendar sy’n syncio rhwng y mac ar iphone. Ti mond yn sgwennu apwyntiad unwaith a alle di cael o yn dy boced, ar dy ddesg, neu unrhyw gyfrifiadur yn y byd gyda internet. Mae ambell i bug ynddo a ddim mo’r clean cut a rhywbeth fel mobileme, ond maeo am ddim. Ac yn amlwg mae angen trydan i weld o mewn unrhyw sefyllfa. Rhywbeth i’w gynsidro beth bynnag!

  2. Dw i’n defnyddio iCal, a llawer o atgoffiadau. Pethau sy angen eu neud tu allan yn mynd ar gardiau indecs yn y poced, ac hefyd unrhywbeth dw i eisiau cofio yn mynd ar gerdyn yn gyntaf, ac wedyn mewn i iCal tro nesa dw i wrth y cyfrifiadur.

    Pan oedd maes-e yn ei anterth, ro’n i’n arfer defnyddio sustem llawer mwy cymhleth (wedi seilio ar “Get Things Done” gan David Allen) – gweler http://www.flickr.com/photos/nicdafis/56015580/ am enghraifft o ba mor geeked-out o’n i ar y pryd. Erbyn hyn dw i ddim yn boddran. Dim ond y cardiau bychain.

  3. Sticio at ddyddiadur papur. Wedi cael trafferth mawr yn bersonol yn trio cadw pethau ar y ffon neu calendrau arlein – angen bod yn llawer iawn fwy trefnus i ddefnyddio google calendr yn effeithiol

Mae'r sylwadau wedi cau.