Haclediad Y Nadolig

Helo-ho-ho, dyma anrheg Nadolig bach cynnar i chi – Haclediad #3!
Ar y rhifyn hwn bydd Iestyn Lloyd (@iestynx) Bryn Salisbury (@bryns) a Sioned Edwards (@llef) yn trafod y mis diwethaf ym myd tech, ac yn edrych mlaen i’r flwyddyn newydd.
Ar y fwydlen mae trafodaeth o system weithredu newydd Apple iOS 4.2.1 a dyfodiad y Beatles i iTunes; mwy ar broblemau diogelwch Facebook, a byddwn yn holi os yw’n troi yn ghetto i’r Gymraeg arlein. Hefyd gwybodaeth ECSGLIWSIF ar ddigwyddiad Hacio’r iaith 2011, a beth mae’r cyfranwyr yn chwilio amdano o sach Siôn Corn.
Mwynhewch, a ‘Dolig Llawen i chi gyd!

3 sylw

  1. Penigamp!

    O’n i’n hoffi’r darn am y we agored a Chymraeg yn enwedig. Quelle surprise.

  2. Podlediad gwych fel arfer. Ma Steve Corn wedi dod yn gynnar yma gan roi MacBook Pro i fi. Diolch Steve (a ysgoloriaeth KESS!!) 🙂

    Edrych mlaen at yr un nesa’n barod. Dolig llawen i bawb!

Mae'r sylwadau wedi cau.