Digwyddiadau ar apps symudol

Mae Y Ddyfeisfa/Inventorium wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer busnesau Cymreig sydd yn edrych ar y farchnad apps. Mae nhw’n trio dod â datblygwyr, busnesau sydd eisiau defnyddio gwasanaethau symudol ac eraill sydd efo rhyw fath o ddiddordeb yn y maes at ei gilydd.

Dyma’r wybodaeth am y digwyddiadau.

Byddan nhw yn Aberystwyth ar y 18fed o Ionawr ac yng Nghaerfyrddin ar yr 22 Chwefror. Bydd dau ddigwyddiad arall ganddyn nhw yn Iwerddon.

7 sylw

  1. Oes modd bathu term gwell nag ‘apps’? Mae’n Steve Jobs-aidd iawn. “There’s an app for that.”

    Rhaglenni? Rhaglennau? ‘Rhagau’? ‘Rhagi’?

  2. Dwi’n meddwl fod hi’n rhy hwyr i ennill y frwydr honno, er mai ‘rhaglennig’ oedd y cyfieithiad ar gyfer ‘applet’. Mae rhai pobl yn defnytdio ‘ap’ nawr (ie, mae Rhodri yn ap 🙂 sy’n Gymreig iawn ond ddim yn helpu chwaith.D

  3. Ie, dwi di gweld ‘cymhwysiad’ yn cael ei ddefnyddio hefyd, ond mae hwnna’n eitha craplyd. Ella ddyla ni jest alw fo’n ap heb y ddwy p. Jest ‘meddalwedd’ dwi’n ddefnyddio weithia.

  4. App fydd y gair o hyn allan debyg, unwaith mae’r Mac App store yn agor ddiwedd y flwyddyn.

    iPhone App Store, Mac App Store, Android App… Mae’r gair yma i aros debyg.

Mae'r sylwadau wedi cau.