A oes blogrolls?

Dw i wedi ychwanegu blogroll bach i http://ytwll.com (gwaelod dan y teitl “Angenrheidiol” – ar hyn o bryd).

Yn y dyddiau cynnar o flogio, roedd blogrolls yn ddefnyddiol fel ffynonellau o:
– awgrymiadau
– sudd dolen (am beiriannau chwilio)
– sylw
– kudos am ddim

Nawr wrth gwrs mae blogrolls wedi mynd mas o ffasiwn yn Saesneg. Mae lot o flogiau Saesneg yn bodoli, mae’n eitha hawdd i ffeindio blogiau eraill trwy chwilio neu trwy ddolenni dwfn yn y cofnodion ayyb.

Ond dyn ni dal yn y “dyddiau cynnar” o flogio Cymraeg yn fy marn i. Dw i’n disgwyl rhywbeth gwell i ddod – yn ôl Meic Stevens (a bron bob pennod o Pen Talar).

Yn y cyfamser, dw i’n profi blogrolls. Hawdd yn WordPress (a Blogger).

Ychwanega blogroll heddiw!

3 sylw

  1. Pan glywais y newyddion y byddai Bloglines yn diflanu (ond sydd nawr am barhau, diolch i MerchantCircle), ro’n i’n meddwl efallai daw blogrolls yn ôl. Dw i wedi hoffi’r rhai ar flogiau Blooger Cymraeg sydd hefyd yn dangs pa rai sydd wedi eu diweddaru hefyd.

    Y drwg ydy, oes peryg pechu pobl drwy beidio rhoi dolen atynt? Cred rhai ei fod yn etiquette da rhoi dolen yn ôl os ydy rhyuwn yn rhoi un atoch chi, er faswn i ddim yn cytuno gyda hynny.

    (gyda llaw, dw i ddim yn meddwl bod y blogroll ar Y Twll mewn lle amlwg iawn – hefyd oes plug-in WordPress sy’n galluogi i’r blogroll ddangos pa flog sydd wedi ei ddiweddaru ddiewtha fel un Blogger sgwn i?)

  2. Mae rhaid i fi ddweud mod i’n casau blogrolls! Yn enwedig os yw rhywun yn rhestr cannoedd o flogiau ar yr un tudalen fel mae rhai blogwyr yn wneud – mae’n gwneud y dudalen yn anniben a ddim yn arbennig o gyfeillgar.

    Mewn cymdeithas fach iawn fel blogwyr Cymraeg dwi ddim yn gweld y fantais chwaith. Mae pobl yn fwy tebygol o ‘ddarganfod’ blogiau drwy ddilyn dolenni mewn cofnodion rhwng un blog a’r llall, neu ar rhywbeth fel y Blogiadur.

    Ond yn bennaf dwi’n amheus faint o bobl sy’n dilyn dolenni mewn blogroll. O edrych ar ystadegau mewn nifer o flogiau dwi’n sylwi fod llawer o bobl yn ‘gweld’ blogrolls (e.e. mae’n llwytho favicon o’r blogiau arall) ond sneb byth yn dilyn y ddolen.

    Wedi dweud hynny, dwi ddim yn gweld dim byd o’i le ar y math o ddolenni sydd ar Y Twll – wneith e ddim drwg ond dwi’n amheus am ei fanteision.

  3. Gyda fideobobdydd, dyw’r cynnwys ddim yn unigryw ond mae e’n adnodd da iawn. Felly dw i ddim yn disgwyl llawer o ddolenni dwfn i gofnodion.

    Google am fideobobdydd.com

    O leia, mae Google yn gweld blogrolls.

    Pa mor boblogaidd ydy pethau yn Gymraeg? Angen lot mwy o hyrwyddo o bethau Cymraeg arlein, yn fy marn i. Fel cymhariaeth, gwnes i gwrdd ag athrawes mis diwetha sydd ddim yn nabod S4C Clic…

Mae'r sylwadau wedi cau.