Trafod dyfodol digidol S4C ar wefan Click on Wales

Mae Bethan Jenkins yn gwneud achos da. Dwi wedi rhoi sylwadau llawn ar y diwedd.

http://www.clickonwales.org/2010/08/time-for-s4c-to-spread-its-wings/

Plis ychwanegwch eich sylwadau!

3 sylw

  1. Chwarae teg am sylw Cymraeg. Pa fath o we ydyn ni’n rhedeg gyda sgyrsiau am S4C yn (unrhyw) iaith arall?

  2. On dydi o’n dweud rhywbeth go glir i ni am yr angen am fwy o wasanaethau Cymraeg ar-lein pan fo trwch y drafodaeth Gymraeg am ddyfodol cyfryngau Cymraeg Cymru ar ffurf print neu radio, a thrwch y drafodaeth Saesneg am yr un pwnc ar-lein.

    Newydd fod yn darllen Convergence Culture gan Henry Jenkins. Dyma ddyfyniad perthnasol:

    “The power of grassroots media is that it diversifies; the power of broadcast media is that it amplifies. That’s why we should be concerned between the flow between the two: expanding the potentials for participation represents the greatest opportunity for cultural diversity.” t.268

    Mae’n grassroots media ni mor wan efallai oherwydd dominyddiaeth ein cyfryngau darlledu, a’n cyfryngau darlledu ni mor benderfynol o anwybyddu potensial eu cynulleidfa, nad oes ganddon ni prin unrhyw ‘flow’ syniadau yn digwydd rhwng y ddau. Mae’n cyfryngau darlledu ni’n unigolyddol gan greu monopoli diwylliannol yn ein cyfryngau Cymraeg.

    Mae gan Golwg360 y potesial i wneud rhywbeth am y hyn ond dydi o ddim wedi ei strwythuro i wneud hynny ar hyn o bryd. Rhaid i ni ffeindio ffyrdd o fobileiddio cyfryngau cymunedol ac annibynnol Cymraeg mewn ffyrdd dychymygus newydd all fwydo mewn i adfywio ein cyfryngau prif ffrwd, a dinistrio’r monopoli diwylliannol ma.

  3. Eitha eironig dwi’n meddwl fod pawb yn cynnwys saeson a’r di-gymraeg eisiau dweud ei dweud am ddarlledu yn Gymraeg, ond fod neb llawer yn trafod y diffyg llwyr o gynnyrch yn Saesneg o Gymru (ar sianeli lleol neu rhwydwaith).

Mae'r sylwadau wedi cau.