Amser Dot Cym wedi dod?

http://www.clickonwales.org/2010/08/time-may-yet-cym-for-wales-on-the-net/

3 sylw

  1. Mae nhw’n dweud hyn bob blwyddyn ers 1998. Yn y cyfamser, mae’r we Gymraeg yn datblygu heb gymorth tri llythyren bach dibwys.

  2. Dyw’r enwau .cym eu hun ddim yn gyffrous o gwbl. Dw i ddim yn edrych ymlaen at ail-prynu fy enwau parth.

    Paid aros am .cym os oes gyda ti syniad arlein.

    Mae bron pob enw .com i gael beth bynnag! Er enghraifft mae Rhys Wynne newydd wedi gosod WordPress ar http://gwenu.com

    Ond… mae’r canlyniadau potensial yn gyffrous – efallai. Mae buddugoliaethau symbolaidd yn bwysig yng Nghymru. Paid â diystyru (yng ngwlad gyda wal graffiti yn fel cofadail cenedlaethol).

  3. Mae .cym wedi marw oherwydd fod neb wedi llwyddo argyhoeddi ICANN i newid ei polisi (sef cadw yn ôl pob cyfuniad 3-llythyren sydd yn ymddangos yn ISO-3166-1). Mae’n anffodus iawn fod ISO wedi rhoi cod ‘CYM’ i ‘wlad’ (neu ynysoedd y Cayman) tra fod CYM hefyd yn god ISO ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ond dwi ddim yn synnu achos nid yw pwyllgor ISO Prydain (drwy gorff y BSI) wedi gwthio meddylfryd Prydeinig bob amser yn eu trafodaethau am safoni rhyngwladol.

    Mae llawer o gam-ddealltwriaeth wedi bod yn y wasg am y datblygiad yma, sydd nawr wedi cyrraedd ffynhonnell ‘dibynnadwy’ (haha) Wikipedia. Dyma fy rant arno.

Mae'r sylwadau wedi cau.