Mapiau dwyieithog ar WordPress gyda math cofnod addasu

Simon Dickson yn sôn am greu map gyda lleoliadau dwyieithog ar Google Maps/WordPress (ar gyfer digwyddiadau y Comisiwn Silk ledled Cymru).

Simon Dickson yn sôn am greu map gyda lleoliadau dwyieithog ar Google Maps/WordPress (ar gyfer digwyddiadau y Comisiwn Silk ledled Cymru).
Neges i bobol wnaeth dod i Hacio’r Iaith 2012 ddoe (ac alumni!)…
Os wyt ti wedi dod i unrhyw Hacio’r Iaith mae croeso i ti cael cyfrif dy hun ar haciaith.com. Gadawa sylw dan y cofnod blog hwn i wneud cais am gyfrif. (Er dyw’r system ddim yn cyhoeddi dy gyfeiriad ebost dw i’n gallu ei gweld yn y cefndir.)

Rydyn ni’n blogio i:
rhannu nodiadau
postio fideos/dolenni/awdio (Yr Haclediad)
parhau gyda syniadau a phrosiectau
gofyn/ateb cwestiynau
trefnu sesh lleol Hacio’r Iaith Bach mewn pyb
ac ati
Mae’r blog Hacio’r Iaith ar sail WordPress, mae’n weddol hawdd i’w defnyddio (ac mae help ar gael os ti’n styc).
Mewn ffordd mae’r gymuned Hacio’r Iaith yn parhau trwy’r flwyddyn ar y blog, ar y we ac unrhyw bryd mae pobol eisiau cwrdd i drafod technoleg a Chymraeg ledled Cymru.
Tudalennau
Dw i newydd diweddaru’r tudalennau isod. Mae croeso i ti ei wella (os oes gyda ti cyfrif).
http://haciaith.com/beth-yw-hacior-iaith/
http://haciaith.com/what-is-hacior-iaith-english/
Gyda llaw mae unrhyw un sy’n dod i’r digwyddiad yn Aberystwyth mis yma yn gallu cael cyfrif i flogio ayyb.
Thema
Mae’r wefan yn defnyddio thema plentyn ar thema P2. Am ryw reswm wnaethon ni colli’r ffeil .mo gyda’r cyfieithiad Cymraeg yn ystod y broses diweddaru sbel yn ôl. Dw i wedi gosod y ffeil eto. Os wyt ti’n gweld unrhyw termau Saesneg yn y thema gadawa sylw. Dylai popeth bod yn Gymraeg!
Gwefan Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru http://comisiwnarddatganoliyngnghymru.independent.gov.uk/
independent.gov yw’r enw parth ar gyfer cyrff hyd-braich a gwefannau dros dro eraill (nid awgrym o argymhelliad y comisiwn ar ddatganoli…)
Cefndir gan y datblygwyr gan gynnwys nodiadau am ddefnydd o WPML er mwyn rhedeg gwefan dwyieithog http://puffbox.com/2011/11/24/small-site-big-name/
Peter Westwood:
I thought it was time we got started on a “proper” English translation of WordPress so here we are.
The plan for the first version of the translation is to go through GlotPress and remove any translations which don’t change the text and just focus on fixing up the pesky z’s and color’s so that everything is spelt correctly.
Paid bwydo’r trol
Dyw e ddim yn drol, siwr o fod, ond i sôn am “‘proper’ English” a “spelt correctly” yn y cydestun hwn jyst yn gofyn am drafferth, yn ddi-angen. Mae WordPress wedi’i ddatblygu yn yr UDA, mae’n hollol naturiol ei fod yn defnyddio en-us yn ddi-ofyn. Prin iawn bod neb â phroblem cael fersiwn en-gb hefyd, os ydy siaradwyr y dafodiaith fendigedig honno yn fodlon wneud y gwaith trosi.
Nawr, sôn am the Queen’s English fel “tafodiaith”, dyna beth yw trolio.
Mae Nic wedi gofyn am fy addasiad Cymraeg o Blackbird Pie:
Blackbird Pie yw ategyn WordPress sy’n mewnosod trydariadau (hapus gyda’r term trydariad nawr?) mewn gwefan neu blog.
Dw i wedi addasu’r cod i Gymraeg. Enghraifft uchod. Neu ar adolygiad.com
O’n i’n mynd i rhannu’r cod beth bynnag! Ond dw i ddim yn 100% hapus gyda fe achos roedd rhaid i mi creu fforch o’r cod wreiddiol yn hytrach na defnyddio gettext/ffeil mo – er mwyn cael dyddiau Cymraeg.
Felly os maen nhw yn rhyddhau fersiwn newydd ac rwyt ti’n diweddaru’r ategyn bydd popeth yn Saesneg eto. (Os ti eisiau gwybod maen nhw yn defnyddio’r ffwythiant date yn hytrach na date_i18n. Efallai nai siarad gyda nhw.)
Rwyt ti angen copi o Blackbird Pie fersiwn 0.5.1 http://wordpress.org/extend/plugins/twitter-blackbird-pie/
Wedyn dyma’r ffeil PHP amgen http://quixoticquisling.com/cyfieithiadau/ategion/twitter-blackbird-pie-cymraeg.zip
Wrth gwrs rwyt ti angen WordPress ar westeia dy hun http://cy.wordpress.org
Gadawa sylw os ti’n ei defnyddio. Jyst chwilfrydig am ddefnydd.
Diolch i ti!
Awgrymodd Simon Brooks a Malan Wilkinson syniad am wefan o adolygiadau byrion am fwyd a bwytai, archif awtomatig o trydariadau gyda’r tag #adolygiad
Mae pobol wedi bod yn adolygu pethau eraill gyda thagiau eraill hefyd, e.e. ffilm
Mwy o hanes tu ôl y syniad
Mae Twitter yn cadw pob trydariad ond dyw e ddim yn mynegeio felly ti’n methu chwilio’r archif. Mae Umap yn cadw archif o drydariadau Cymraeg ond mae’n methu weithiau achos mae’n trio adnabod yr iaith sydd wedi cael ei defnydd.
1. Dw i wedi ei adeiladu. Cer i’w weld.
(dw i’n gwybod bod rhai ar goll, dw i’n eu mewnforio nhw ar hyn o bryd)
2. Bydd y wefan yn gasglu pob trydariad gyda’r tag #adolygiad – plis postia adolygiad i’w brofi. Bydd y trydariad yn dangos mewn awr (dw i ddim eisiau gofyn twitter.com yn aml iawn achos mae’n erbyn y termau i gadw archif). Hefyd dw i’n trystio pobol i beidio sbamio gyda’r tag. Bydd rhaid i ni edrych at olygu os mae pobol yn bostio pethau off-pwnc.
Bydd mwy o syniad yn bosib yn y dyfodol, e.e. mapio.
Mae’r syniad yn hollol arbrofol, croeso i ti sgwennu syniadau isod.
Diolch Nic Dafis am help ac i’r gymuned WordPress am feddalwedd GPL!
Yn enwedig efallai dw i’n gallu ychwanegu ychydig mwy o rhyngweithio – ar hyn o bryd yr unig pethau sy’n symud ydy’r chwilio a dolenni fel ffefryn/aildrydaru ayyb ar y trydariadau (popeth yn Gymraeg!).
Dw i wedi meddwl am sylwadau ar adolygiad.com neu botymau Hoffi ayyb. Ddim yn siwr os dw i eisiau creu cynnwys newydd ar adolygiad.com fel sylwadau. Os mae pobol eisiau ateb maen nhw yn gallu postio ar Twitter beth bynnag gyda’r tag.
Wedi cael 30 adolygiad hyd yn hyn (cyfrif ar y gwaelod o adolygiad.com)
Wedi postio fy adolygiad cyntaf. Sgwn i os oes modd tynnu allweddeiriau allan yn awtomatig i wneud rhyw fath o taxonomy? Ma’r arbrawf wedi cydio dwi’n meddwl.
Sdim angen sylwadau dwi’m yn meddwl, ond byddau dosbarthu’r adolygiadau yn ehangach yn fanteisiol. Rhoi exposure i’r adolygiad (a kudos i’r adolygydd) tu hwnt i ddilyn hashtag / mynd i’r wefan.
Oes modd creu RSS o chwiliadau? e.g. byddai postio canlyniadau http://adolygiad.com/?s=aerdydd ar eincaerydydd.com yn handi.
(*chwilio am ‘aerdydd’ er mwyn pigo lan treigliadau)
Mae modd ond efallai mae’n haws i greu RSS o’r chwiliad Twitter. Ond basai dolen i adolygiad.com yn neis os wyt ti eisiau!
Gweler y newidiadau heddiw (rhestr o adolygwyr): http://adolygiad.com
Dyma’r siart
1. Blog Dolgellau (Iawn Chafi? Gwefan / blog i rannu straeon a mwy am ardal Dolgellau)
2. Asturias yn Gymraeg (Asturias en galés; in Welsh)
3. Matthew yn Aber (Siarad rwtsh ymysg y call!)
7. Blog Colin (Syniadau am Gymru a thu hwnt)
9. Dyffryn Nantlle 20:20 (gweledigaeth ar gyfer y dyffryn)
Ffynhonnell: “The most popular WordPress.com blogs are ranked here according to a special formula.”
(edrych fel cynnwys newydd yw un o’r meini prawf)
Maen nhw i gyd ar Y Rhestr Hedyn.
Sut i ddechrau blog (blog lleol ond addas i bynciau eraill)
Waw, mae pethau’n symud yn gyflym yn y siartau – dyma sut mae’n erdych bore’ma. Dau new entry (a dau gwbl newydd i mi).
2. Blog Colin
3 s4cnewydd
4. Priodas Aled a Sioned
5. Matthew yn Aber
6. Dyffryn Nantlle 20:20
7. Asturias yn Gymraeg
8. Blog llyfrgelloedd Cymru Alyson
9. Blog Dolgellau
10. Pleidleisiwch 2011
Chwarae teg, mae WordPress yn wych am eich helpu i ddarganfod blogiau newydd a chofnodion diddorol mewn iaith benodol. Do’n i ddim yn meddwl bod neb yn trafferthu tagio ar flogiau Cymraeg ond wrth glicio at y tag ‘toriadau’ ar un blog, des ar draws 3 cofnod arall o ddau flog arall -dau yn ymwneud a thoriadua gwariant, ac un ynglyn a garddio!
Ond mae’r byd blogiau ar WordPress.com dal yn fach iawn. Mae sbamblog “Dim ar dy fywyd!” newydd cyrraedd rhif 14 ar y rhestr. http://nda001.wordpress.com
Ar y 25ed mis Mawrth cawson ni problemau gyda gwesteia haciaith.com ar ôl gormod o lwyth ar y gweinydd.
Heddiw mae’r wefan haciaith.com yn ôl. Mae’n flin gyda fi am y diffyg gwasanaeth erbyn hyn. Diolch am y negeseuon o gefnogaeth.
Dw i’n dal i fynd trwy’r ffeiliau log i ddadansoddi’r problem gwreiddiol. Fy nrwgdybiaeth yw gormod o ymweliadau gan sbambots awtomatig. Yn y cyfamser dw i wedi gosod ategyn WP Super Cache i helpu’r gweinydd gyda’i gwaith. Fyddi di ddim sylwi unrhyw gwahaniaeth o gwbl – gobeithio.
Wrth gwrs mae haciaith.com wedi bod yn defnyddio P2 ers mis Ionawr 2010. Yay!
Robin Hughes 4:35 PM ar 29 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
A gaf i gyfrif plis? Diolch.
Mark Jones 10:02 AM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
A finnau! Diolch!
Carl Morris 12:12 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
Robin a Mark, dw i newydd greu cyfrifon i chi. Gweler eich ebost.
Nici Becch 4:18 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
A fi os gwelwch yn dda
Carl Morris 11:59 PM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
Nici, mae gen ti ebost.
Gareth Jones 7:40 PM ar 31 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
Gai gyfrif
Gareth Jones 3:43 AM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol
Diddorol gweld rhai ymatebion yn ymddangos yn syth tra bod eraill yn disgwyl eu cymedroli.
Carl Morris 1:18 PM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol
Gareth, dydyn ni ddim yn rhoi cyfrifon i bobol sydd ddim wedi dod. Mae rhaid cael rhyw fath o linell. Does dim eithriadau. Diolch i ti am y sylwadau.