Tagiwyd fel: technoleg RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhodri ap Dyfrig 2:49 PM ar 7 October 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: #findingada, Ada Lovelace Day, Diwrnod Ada Lovelace, Elin Rhys, gwyddioniaeth, technoleg, Telesgôp   

    Fy newis ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace: Elin Rhys 

    Dwi’n credu bod diwrnod Ada Lovelace yn syniad gwych, a dwi di blogio am ddwy ddynes o Gymru sydd wedi bod yn ddylanwadol ym myd technoleg Cymru o’r blaen: Elen Rhys a Delyth Prys. Tro ma dwi’n mynd i sôn am Rhys arall; rhywun sydd yn ysbrydoliaeth ym myd gwyddoniaeth yn ogystal â thechnoleg.

    Mae Elin Rhys yn haeddu sylw heddiw oherwydd ei pharhad di-flino i ddathlu a hyrwyddo gwyddoniaeth yng Nghymru a thu hwnt. P’un ai trwy raglenni teledu a radio neu trwy siarad yn gyhoeddus, mae hi wastad yn ceisio rhoi llais i wyddoniaeth mewn cyd-destun Cymreig sydd yn aml â gogwydd gref tuag at y celfyddydol. Mae’r erthygl hon ganddi ar Dr. Eirwen Gwynn yn enghraifft dda dwi’n meddwl.

    Er iddi adael gweithio fel gwyddonydd gyda Dŵr Cymru ym 1984, mae wedi parhau i fod yn weithgar yn y maes, a hynny’n dod trwodd yn amlwg yn ei gwaith teledu yn cyflwyno ac yn nes mlaen gyda Telesgôp, y cwmni sefydlodd hi ym 1993. Mae nifer fawr o’r rhaglenni mae hi wedi eu cynhyrchu yn dod o berspectif gwyddonol, yn aml o berspectif addysgu, esbonio a thynnu’r dirgelwch o wyddoniaeth.

    O’r ongl dechnoleg mae gwasanaethau fel Ffermio.tv yn dangos ei gweledigaeth flaengar a bod technolegau newydd yn rhywbeth sydd fod o ddefnydd i bawb, ac nid yn rhywbeth elitaidd.

    Bob tro dwi wedi cyfarfod Elin mae hi wastad â diddordeb mewn pobol eraill ac mae ei brwfrydedd gonest yn trosglwyddo i rywun rywsut. Dwi’n siwr bod hi wedi ysbrydoli nifer fawr o bobol ond dwi’n meddwl bod ei rôl hi gyda gwyddoniaeth yng Nghymru yn arbennig o bwysig o ystyried cyn lleied o fenywod sydd yn cael sylw yn y maes.

    Mewn cyfweliad Twitter gyda’r Western Mail yn 2010 mae hi’n nodi tamaid o gyngor gafodd hi gan ei bos tra’n gweithio gyda Dŵr Cymru:

    if you want to see your name on the map, publish your own map.

    Cyngor da – ond dwi’n meddwl bod ti di cyhoeddi sawl map! Diolch Elin.

     
    • Carl Morris 2:32 PM ar 11 Hydref 2011 Dolen Barhaol

      Ac mae’r rhesymeg tu ôl yr enw Telesgôp yn glir i fi nawr!

  • Carl Morris 9:54 PM ar 12 October 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: davewiner, dyfyniad, , her, technoleg   

    Dyfyniad da gan Dave Winer heddiw 

    I think history has shown over and over, that you must rise to the challenge of new technology, or be marginalized by it.

    Mae Dave Winer yn siarad am y diwydiant newyddion yma ond wrth gwrs dw i’n meddwl amdanom ni.

    http://scripting.com/stories/2010/10/12/allTheNewsThatsFitToPrint.html#p2692

     
  • Carl Morris 9:02 PM ar 11 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , , technoleg   

    Amserlen OpenTech 2010 yn Llundain 

    Ces i amser da iawn yn OpenTech, Llundain llynedd.

    Ewch i glywed areithiau am dechnoleg, gwleidyddiaeth a chymdeithas eleni!

    http://www.ukuug.org/events/opentech2010/schedule/

     
  • Carl Morris 8:45 PM ar 24 March 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , ald10, benywod, technoleg   

    Diwrnod Ada Lovelace 2010 

    Cofnodion heddiw

    http://metastwnsh.com/diwrnod-ada-lovelace-holi-sioned-edwards/

    http://quixoticquisling.com/2010/03/diwrnod-ada-lovelace-danah-boyd/

    Unrhyw beth arall yn Gymraeg? Unrhyw ffefrynnau yn ieithoedd eraill?

     
  • Carl Morris 8:41 PM ar 28 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , technoleg   

    Celf + Technoleg 

    Dw i’n meddwl bod e’n ddiddorol i gyflwyno artistiaid i bobol yn y byd technoleg (a vice-versa) am diwrnod.

    http://www.rhizome.org/sevenonseven/

    (Paid edrych at y prisiau… )


    “Seven on Seven will pair seven leading artists with seven technologists in teams of two, and challenge them to develop something new –be it an application, social media, artwork, product, or whatever they imagine– over the course of a single day. The seven teams will unveil their ideas at a one-day event at the New Museum on April 17th.”

     
    • Kevin Donnelly 10:58 AM ar 1 Mawrth 2010 Dolen Barhaol

      Mae gan Gymru rhywbeth o’r fath – Bloc (http://www.bloc.org.uk). Tasech chi’n licio gwneud cyflwyniad am Hacio’r Iaith yn un o’i events, dwi’n siŵr buasai Stefhan Caddick yn falch o glywed gennych. Neu hyd yn oed trefnu’r Haciaith nesaf fel cyd-broject?

  • Rhodri ap Dyfrig 9:54 PM ar 2 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: anghynhadledd, , dyfeisiau, , technoleg,   

    Teclynnau trefnu Hacio’r Iaith 

    Ok, yn ysbryd agored y digwyddiad dwi am drio sgwennu rhai cofnodion dros yr wythnos nesaf ar sut drefnwyd Hacio’r Iaith.

    Yn gyntaf dwi jest am greu rhestr o’r teclynnau, meddalwedd neu wasanaethau ddefnydion ni ar gyfer cydweithio i dynnu’r elfennau gwahanol at eu gilydd. Croeso i chi ychwanegu at y rhestr os dwi wedi anghofio unrhywbeth.

    • Twitter – ar gyfer hyrwyddo, anfon negeseuon cyflym, defnyddio’r dorf i’n helpu (cafwyd dwy restr fawr o ebyst cysylltiadau y wasg drwy holi’r dorf)
    • WordPress.org (thema P2 – fersiwn Gymraeg ar gael yma!) – defnyddiwyd WP.org i greu gwefan swyddogol y digwyddiad (hon, ‘lly). Roedd hwn yn flog arferol i ddechrau, ond cyn y digwyddiad newidiodd Carl y thema i un P2 oedd yn ein galluogi ni i’w agor fyny i fod yn flog cyhoeddus ar gyfer yr holl fynychwyr eraill.
    • DocuWiki – hollol elfennol i’r trefnu. Defnyddiwyd sawl tudalen ar hedyn.net i drafod syniadau, i roi gwybodaeth, i gofrestru, ac i gyd-drefnu elfennau gwahanol.
    • Google Docs – ar gyfer ysgrifennu’r datganiad i’r wasg a’r erthygl WalesHome ar y cyd; ac ar gyfer cyfieithu ffeil .po y thema WordPress P2 ar y cyd
    • Google Wave – ar gyfer trafod syniadau a threfniadau dechreuol
    • Twapperkeepr – ar gyfer archifo trydar oedd yn defnyddio’r tag #haciaith. Mae archif Twitter yn ddiwerth, ac mae posib allforio’r trydar fel pdf gyda hwn.
    • Flickr – rhannu lluniau a delweddau cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad
    • Yousendit – i rannu ffeiliau sain/fideo dan 100MB dros ebost
    • Dropbox – i rannu ffeiliau mawr (dylunio a fideo). Rhannwyd un ffolder rhwng 5 person. Mae’n dal hyd at 2GB.
    • Odeo – i chwarae mp3s o recordiadau sesiynau
    • Facebook – ar gyfer hyrwyddo
    • Audacity – i dorri pen a chynffon recordiadau sain mp3
    • Final Cut Pro – mi fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer golygu’r fideo.
    • YouTube – i lanlwytho cyfweliadau byrion o’r digwyddiad
    • Skype – i recordio’r mini-bodlediad
    • Ustream – i ddarlledu’r podlediad byw
    • Boinx.tv – i gymysgu dwy sianel fideo a thrac sain y podlediad byw.
    • SoundCloud – er mwyn llwytho mp3s o sesiynau’r digwyddiad (gallwch lwytho hyd at 120 munud am ddim)
    • VisibleTweets – er mwyn gwneud visualisation cŵl o tweets #haciaith ar sgrin fawr yn y cyntedd
    • Gmail (un personol i fi) – mae system Gmail yn trefnu ebyst yn ôl sgwrs, yn hytrach nac yn ôl amser derbyn yr ebost unigol. Mae hyn yn angenrheidiol i fi pan yn delio gyda sgwrs hir dros ebost gyda nifer fawr o bobol. (Gyda llaw gallwch chi wneud i Outlook roi ebyst mewn edefynnau fel Gmail hefyd.)
    • Remember The Milk (un personol i fi) – gwasanaeth rhestr “To Do”. Yn anffodus mae angen talu ffi blynyddol i gael o i syncio gyda iPhone, ond mae’n syncio gyda rhyngwyneb Gmail am ddim.

    Mae’n anhygoel faint o dechnolegau gwahanol mae rhywun yn ei ddefnyddio pan ti’n cyfri popeth. Oes rhai eraill dwi di anghofio?

     
    • Carl Morris 10:47 PM ar 2 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Cofnod gwych!

      Twitter – Dylen ni meddwl am proffiliau agor yn yr iaith Gymraeg.

      Cleientiaid Twitter? – Seesmic, Tweetdeck, ayyb

      WordPress.org + P2 == Blogio gyflym iawn. Beth am blogiau P2 am bynciau eraill? Ffilmiau, cerddoriaeth… Syniad am ddim – pobol? Ewch!

      DokuWiki – dw i’n chwilio am bobol i helpu gyda chyfieithiad… Dylen ni cael rhyngwyneb Hedyn yng Nghymraeg (yn Saesneg ar hyn o bryd). Byddan ni rhyddhau’r cyfieithiad i bawb am wiciau eraill wrth gwrs.

      Google Docs – caru

      Google Wave – casáu! (gyda fersiwn ar hyn o bryd)

      Thunderbird – fy hoff raglen ebost (well na Outlook!). Gan gymuned a Mozilla hefyd. Fel Firefox am ebost.

      Skype – mae’n bosib gwneud negeseua sydyn yna – am drafodaeth / cyfweliadau. Dyna ni, cofnod blog gyflym. Syniad: beth am sgwrs negeseua sydyn misol am Hacio’r Iaith? Dyn ni’n gallu cyhoeddi’r rhannau gorau yma neu ar Metastwnsh. Fel podlediad OND ti’n gallu chwilio am eiriau ar Google…

    • Carl Morris 12:38 AM ar 3 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Gyda llaw, dyn ni’n gallu trafod pob teclyn yma yn y cyd-destun yr iaith Cymraeg – fel trafodaethau agored.

    • Daf Tudur 11:07 AM ar 6 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Ro’n i’n licio’r ffordd roedd y trydar yn cael ei arddangos ar y sgrin deledu yn y cyntedd?

      Pa declyn gafodd ei ddefnyddio i wneud hynny?

    • Rhodri ap Dyfrig 12:29 PM ar 8 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      O ie, Iestyn ddaru argymell hwnna: http://visibletweets.com/

      Wedi ei ychwanegu at y rhestr yn ogystal â SoundCloud

  • Rhodri ap Dyfrig 9:03 PM ar 2 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: gîcfyd, , technoleg   

    “64 things every geek should know”

    http://caintechnews.wordpress.com/2009/04/22/64-things-every-geek-should-know/

     
c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu