Tagged: s4c Toggle Comment Threads | Llwybrau Byr Bysellfwrdd

  • Rhodri ap Dyfrig 3:05 PM on 9 May 2013 Permalink | Ateb
    Tags: , , , s4c   

    #creadigidol – Dadansoddiad Mewnol-Allanol (SWOT) o’r Cyfryngau Cymraeg Digidol 

    Dwi yng nghynhadledd #creadigidol yng Nghaernarfon heddiw (ond mae ar y we ac yng Nghaerdydd hefyd). Dwi newydd gyflwyno ar y pwnc uchod felly meddwl baswn i’n postio dolenni i’r cyflwyniad yma.

    Mae wedi bod yn ddiwrnod diddorol iawn a dwi’n falch iawn o weld bod lot o’r pryderon oedd gen i yn y cyflwyniad wedi eu hateb neu’n dechrau cael eu hateb gan S4C. Dyddiau cyffrous yn sicr, a dwi’n siwr bydd lot o sdwff da’n dod allan dros y blynyddoedd nesaf.

    http://www.apdyfrig.com/wp-content/uploads/2013/05/SWOT-digidolcymraeg.docx

     
  • Carl Morris 11:37 PM on 21 February 2013 Permalink | Ateb
    Tags: , , s4c   

    Cwmni Da ac S4C yn lansio ap Llefydd Sanctaidd ar iOS… Trafodaeth 

    Ifor ap Glyn - Llefydd Sanctaidd

    Newyddion da i bobl sy’n licio crwydro yng Nghymru. Dw i newydd gweld bod y tîm tu ôl y rhaglen teledu Llefydd Sanctaidd wedi lansio ap Llefydd Sanctaidd am ddim ar iOS:

    [...] Nawr, gyda chymorth yr app arbennig hwn, fe allwch chithau gychwyn ar eich pererindod eich hunain i unrhyw un o’r 37 lle sanctaidd sy’n ymddangos yn y gyfres. Gan ddefnyddio technoleg GPS, gallwch ddarganfod sut i gyrraedd, edrych ar luniau a darllen am hanes y llefydd sanctaidd. Gyda chyfarwyddiadau, mapp a gwybodaeth i ymwelwyr mae popeth sydd ei angen arnoch cyn cychwyn am dro i gyd ar gael mewn un man cyfleus ar yr app arbennig hwn.

    Lawrlwythwch yr app heddiw am ddim o itunes.com/llefyddsanctaidd. [...]

    [...] Mae cynnwys Cymraeg yr app hwn wedi ei gyfieithu o lyfr Nick Mayhew-Smith, ‘Britain’s holiest places’. Mae fersiwn Saesneg o’r app yn cael ei chreu ar hyn o bryd fydd yn cynnwys 500 o fannau sanctaidd y llyfr hwnnw, a bydd ar werth am £5.49. [...]

    Datganiad i’r wasg am ap Llefydd Sanctaidd

    Mae llawer o bobl yn mynegi barn am ddefnydd S4C o ddigidol. Beth bynnag yw’r diffygion, maent yn gallu comisynu APS! Ac aps brodorol ar gyfer iOS yn bennaf er bod rhai ar gyfer Android. Dw i’n chwilfrydig am yr egwyddorion tu ôl y strategaeth yma.

    1. Faint o ddefnyddwyr Cymraeg sydd ar iOS (iPad, iPhone) bellach?

    2. Pam mae prinder o brosiectau S4C ar blatfformau digidol gyda mwy o ddefnyddwyr potensial fel Android, y we, Wicipedia, ayyb? (Dw i’n defnyddio Android! Dw i heb cael siawns i brofi’r ap eto. Mae croeso i unrhyw un postio meddyliau / profiadau yn y sylwadau.)

    3. Er enghraifft, oes modd cael mwy o gynnwys amlgyfryngol ar dudalen S4C am Llefydd Sanctaidd?

    Jyst gofyn. Efallai byddai rhywun sy’n gwybod yn gallu ateb.

    Gyda llaw hoffwn i weld ystadegau am ddefnydd o aps yn y dyfodol agos – er enghraifft trwy unrhyw ap mae’n ddigon hawdd i ofyn am ganiatâd i gasglu data (dienw) am leoliad ayyb. Dw i jyst ddim yn siŵr pa mor dda rydyn ni’n deall y farchnad aps Cymraeg.

     
    • Huw Marshall 8:15 PM on 3 Mawrth 2013 Permalink

      Mae na rhesymau fasnachol dros lansio ar iOS yn gyntaf, dwi’n gobeithio blogio ar y pwnc yn fuan. O ran cynnwys amlgyfryngol mae rhaid cofio bod adnoddau ariannol a dynol yn brin, dwi wrthi’n datblygu strategaeth yn S4C sy’n golygu fod rhaid targedu’r adnoddau prin yma. Mae datblygu’r Ap llefydd sanctaidd yn enghraifft o gynnwys ddigidol ychwanegol mewn cysylltiad a rhaglen, ‘swn i wrth fy modd yn cynnig mwy o adnoddau ddigidol yn gyffredinol ond diwedd y gân yw’r geiniog.

      Un enghraifft o sut mae S4C yn ehangu eu darpariaeth digidol yw ein partneriaeth â’r theatr gen ar prosiectau Y Bont a Tir Shir Gâr.

      Dwi’n gobeithio fydd ffrwythau fy llafur yn dechrau amlygu eu hunain yn y misoedd sy’n dod. Mae na lot o ddatblygiaday cyffrous ar y gweill.

    • Carl Morris 9:13 PM on 5 Mawrth 2013 Permalink

      Diwedd y gân yw’r geiniog – ond beth am amcanion gwasanaeth cyhoeddus S4C?

      Fydd blog S4C sydd yn esbonio rhesymeg dros benderfyniadau digidol felly? (Gwych!)

    • Rhys 10:04 PM on 12 Mawrth 2013 Permalink

      Edrychaf innau ymlaen at y blogiad hefyd (fel perchennog Android chwerw arall….. ;-) )

      Falle dan ni’n trafod graddfa, a ‘chynnyrch’ (a chyllid) cwbl wahanol fan hyn, ond difyr yw darllen polisi gov.uk am gynhyrchu apps: We’re not ‘appy. Not ‘appy at all.

    • Carl Morris 10:45 AM on 15 Mawrth 2013 Permalink

      Gofyn oeddwn i, chwerw dw i ddim! :-)

      Ie gwelais i’r cofnod am aps gov.uk – mae’r sefyllfa ychydig yn wahanol i deledu achos maent yn sôn am ddarpariaeth o wasanaethau fel iechyd. Ond mae’r egwyddor yn bwysig – mae angen ystyried lle mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr!

  • Carl Morris 11:47 PM on 22 August 2012 Permalink
    Tags: , , Pobol Y Cwm, , s4c   

    Pobol y Cwm a digidol 

    Beth mae pobl yn meddwl o’r datganiad S4C heddiw? Dw i newydd sgwennu cofnod ar fy mlog, BBC + S4C + Ti == PYC.

     
  • Rhodri ap Dyfrig 9:00 AM on 21 May 2012 Permalink | Ateb
    Tags: , , , s4c   

    “A oes data?” “…data?!” 

    Am ryw reswm dwi wedi cael rhyw chwilen yn fy mhen am ddarllen barddoniaeth yn ddiweddar. Dwi rioed wedi o’r blaen, ond mae prinder amser a wedi arwain fi i ddechrau chwilota. Fy mhroblem i ydi, a dwi di cael yr un broblem gyda jazz o’r blaen, ydi bod darganfod beth dwi’n lecio chydig yn annodd. Mi allwn i holi Twitter am argymhellion, ond mae’n rhaid bod na ffyrdd gwell o wneud hynny, efallai gan ddefnyddio algorithmau.

    Ond wrth feddwl am hyn, nesh i feddwl oes na’r data ar gael i wneud rhedeg unrhyw algorithm yn werth chweil? Oes data gan Gwales efallai am bryniannau? Oes data gan S4C am Clic? Oes data gan Golwg360 am ddarllenwyr? Dwi’n amau taw na yw’r ateb gan nad oes gan yr un (heblaw falle Gwales?) systemau sydd yn tracio dewisiadau defnyddwyr.

    Nid yn unig byddai hyn o werth wrth feddwl am ba gynnwys sy’n gweithio, mae’n hollbwysig ar gyfer personoleiddio cynnwys. Mae data defnyddwyr yn rhan greiddiol o strategaeth Channel 4, a’r BBC trwy BBC ID.

    Gan nad oes neb wedi cymryd cam i’r cyfeiriad hwn eto, beth am gynnig syniad: be am gael rhyw fath o system defnyddwyr (fel OpenID efallai) sydd yn gallu cael ei osod fel dull mewngofnodi ar draws y we Gymraeg. Byddai wedyn ffordd o gael data meintiol mawr am ddefnyddwyr, a fyddai nid yn unig yn arf marchnata grymus (faint o bobol sydd ddim yn prynu deunydd Cymraeg am nad ydyn nhw wedi ffeindio’r peth ma nhw isio?), ond yn bwysicach yn arf ar gyfer hybu diwylliant drwy ffeindio ffyrdd newydd o gael pobol at be ma nhw isio.

    Be chi’n feddwl? Breuddwyd ffwl?

     
    • Nudd 10:59 AM on 21 Mai 2012 Permalink

      Rhodri,

      Rwy’n credu dy fod ti wedi rhoi dy fys ar real sanctaidd marchnata digidol! Y data hyn yw’r celloedd coch yng ngwaed Amazon, Yahoo, Google ac ati – h.y. ystadegau am dueddiadau ac arferion defnyddwyr sy’n caniatáu iddyn nhw ychwanegu gwerth at eu data ffeithiol drwy bersonoleiddio profiad y defnyddiwr ar un llaw, a thargedu hysbysebion atynt ar y llaw arall.

      Gymaint ag y byddwn i’n hoffi gweld dy syniad di’n casglu momentwm, rwy’n ofni fod hyd yn oed cwmnïau Cymru yn rhy fasnachol i fuddsoddi mewn systemau i gasglu’r data hyn ac yna ei rannu’n gyhoeddus.

    • Owain Schiavone 9:48 AM on 22 Mai 2012 Permalink

      Data ynglyn a defnyddwyr ti’n meddwl yn hytrach na gwybodaeth gyffredinol ynglyn a pha dudalennau mae pobl yn eu darllen ia (h.y. yng nghyd destun G360)?

      Fel mae’n digwydd rydan ni wedi bod yn sbio ar Open ID yn ddiweddar ac yn gobeithio ei gyflwyno fel rhan o gynllun ehangach (newyddion lleol a ballu).

    • Rhodri ap Dyfrig 12:38 AM on 23 Mai 2012 Permalink

      @Nudd faswn i ddim o reidrwydd isio i’r cwmniau ei rannu’n gyhoeddus – dim ond efo’i gilydd! Ella bod hynny r’un mor annodd ;-)

      @Owain Ia, data ynglyn â defnyddwyr o’n i ar ei ol. Arferion darllen, gwylio, prynu yn gymysg efo data dyfnach demograffyddol. Falch bod chi’n ystyried rhyw fath o gyfrifon defnyddwyr. Mae S4C hefyd dwi’n meddwl. Fasa hi ddim yn braf gallu cael cyfrifon sydd yn gweithio ar draws G360, S4C a chyrff eraill Cymraeg sy’n derbyn nawdd cyhoeddus? Fasa’n broffidiol i chi gyd dwi’n meddwl.

    • Owain Schiavone 12:21 PM on 23 Mai 2012 Permalink

      Dwi’n meddwl mai Open ID neu debyg ydy’r cyfle gorau i gasglu’r math yma o wybodaeth – mae pobl yn fwy parod y rannu gwybodaeth bersonol ar gyfryngau fel Facebook a Twitter. Rydan ni hefyd yn edrych ar apps Open Graph Facebook i weld os ydy’n werth i ni ystyried mynd ar ol hyn.

    • Marc Thomas 8:24 PM on 23 Mai 2012 Permalink

      Mae gwefan Lleol.net wedi yn caniatau mewngofnodi drwy ddefnyddio Open ID. Efallai dylswn ni ychwanegu neges yn esbonio’r gwasanaeth yma. Fyddai’n braf cydweithio gyda gwefannau eraill er mwyn gwneud rhyw fath o hysbysebu’r rhwydwaith yma ar y cyd.

  • Carl Morris 12:07 PM on 10 April 2012 Permalink | Ateb
    Tags: , , s4c,   

    Adeiladu platfformau sydd yn hybu creadigrwydd gan @davidgauntlett 

    Dyma cofnod blog diddorol gan David Gauntlett gydag wyth egwyddor bwysig os wyt ti eisiau adeiladu/defnyddio platfform ar-lein i sbarduno creadigrwydd.

    http://www.digitaltransformations.org.uk/building-platforms-for-creativity-eight-principles/

    Daeth David Gauntlett i ambell i gyfarfod Fforwm Cyfryngau Newydd gyda ni llynedd. Mae fe’n awdur y llyfr Making Is Connecting.

     
  • Carl Morris 2:13 PM on 24 January 2012 Permalink | Ateb
    Tags: s4c, , Wedi 7   

    Wedi 7 a @llef yn trafod technoleg, y we Gymraeg a Hacio’r Iaith ar #s4c 

    http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=454513805 (dolen yn dod i ben mewn 6 diwrnod)

    Mae’r sgwrs yn dechrau 08:00.

    Sgwrs da iawn, mwy plis!

    Oes lle am raglen reolaidd ar y teledu i drafod defnydd o dechnoleg mewn cymdeithas ac yng Nghymru, y heriau, y problemau, y cyfleoedd (yn hytrach na jyst gadjets newydd)?

     
    • Rhodri ap Dyfrig 12:15 AM on 25 Ionawr 2012 Permalink

      Wn i ddim am deledu, dwi’n ffeindio Y Lle Feiral yn anhygoel o ddall i unrhyw gyd-destun Cymraeg i dechnoleg. Neu ydw i jest di gweld y rhaglenni rong?

      Fasa’n amêsing cael rhaglen fel The Stream ar Al Jazeera, lle mae technoleg yn rhan o wead y rhaglen (ffeindio storis, curadu storis, cyfweld pobol heb orfod anfon camera allan ayyb), ac lle mae’r rhaglen yn trafod drafod defnyddiau cymdeithasol a gwleidyddol pobol o’r dechnoleg ledled y byd.

      Bydda rhaglen sydd yn mynd allan yn fyw arlein yn wythnosol ar amser penodol, gyda’r holl beth ar gael ar bob cyfrwng dosbarthu fel podlediad arol hynny yn wych.

      A Sioned fel anchor :)

    • Carl Morris 1:08 PM on 25 Ionawr 2012 Permalink

      Ie o’n i’n meddwl am Y Lle Feiral. Lot o botensial ond brochure-wedd ar hyn o bryd.

    • Menna Machreth 3:51 PM on 25 Ionawr 2012 Permalink

      Rhodri, syniad da am y rhaglen, beth am greu rhaglen enghreifftiol a’i drio allan ar Sianel 62? Bydd Sianel 62 yn sianel ar y we ac yn gwahodd cyfraniadau rhaglenni wrth unrhyw aelodau o Gymdeithas yr Iaith rhwng Chwefror a Gorffennaf. Beth am ofyn pwy sydd â diddordeb dydd Sadwrn?

    • Rhodri ap Dyfrig 10:53 PM on 26 Ionawr 2012 Permalink

      Pe bai ond yr amser gen i Menna…

  • Carl Morris 2:13 PM on 29 November 2011 Permalink | Ateb
    Tags: , arloesi, , s4c,   

    Awdurdod S4C yn cyhoeddi Adroddiad Turner 

    Mae Awdurdod S4C heddiw (dydd Mawrth 29 Tachwedd) wedi cyhoeddi Adroddiad Richie Turner yn dilyn ei Adolygiad o Effeithlonrwydd ac Arloesedd y Sianel. Mae’r Awdurdod hefyd wedi cyhoeddi eu hymateb i’r argymhellion a wneir yn yr Adroddiad. [...]

    Adroddiad PDF http://s4c.co.uk/abouts4c/authority/downloads/adrodd_report.pdf

    Datganiad http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=581

     
  • Rhodri ap Dyfrig 11:22 PM on 24 November 2011 Permalink | Ateb
    Tags: EITB, NPLD, s4c, Vilaweb   

    Cynhadledd NPLD/S4C – diwrnod dau am ‘Gyfryngau Newydd’ 

    Rhaglen lawn a manylion cofrestru: http://www.npld.eu/NewsEvents/Pages/NPLDS4CBroadcastingConference-registrationnowopen.aspx

    Dwi’n gwybod bod hi’n teimlo chydig fel bod dim byd *ond* ymgynghori’n mynd mlaen ar hyn o bryd am ddyfydol y cyfryngau, ond os oes chwant clywed ambell beth nad sydd wedi cael ei ddweud eisoes aam fater dyfodol y cyfryngau Cymraeg bydd yn werth mynd ar gyfer clywed gan ddau berson:

    • Vicent Partal – legend llwyr ieithoedd lleiafrifol arlein. Fe sefydlodd Vilaweb, y brif wefan newyddion lleol a chenedlaethol yn yr iaith Gatalaneg, nôl ym 1996 dim llai. Gwr oedd yn bell o flaen ei amser.
    • Inako Gurrutxaga – pennaeth cyfrygnau digidol yn EITB, y darlledwr cyhoeddus yng Ngwlad y Basg (gyfrifol am arlwy Basgeg a Sbaeneg). Roedd ganddyn nhw lawer o syniadau diddorol ar waith eisoes flwyddyn yn ôl. Bydd hi’n wych clywed lle maen nhw arnbi erbyn hyn.

    Yn y cyfamser…rydyn ni’n ceisio cael pethau i symud yma. Ara bach a bob yn dipyn…

    Mae’r gynhadledd am ddim felly brysiwch i gofrestru.

     
  • Carl Morris 9:59 PM on 24 November 2011 Permalink | Ateb
    Tags: , s4c,   

    S4C: ymgynghoriad cyhoeddus ar adroddiad y Fforwm Cyfryngau Newydd 

    Eleni dw i wedi bod yn ymgynghori’r Awdurdod S4C fel aelod o’r Fforwm Cyfryngau Newydd.

    Mae S4C newydd cyhoeddu’n hadroddiad: http://www.s4c.co.uk/cyfryngaunewydd/pdf/fforwm_cyfryngau_newydd.pdf

    Datganiad y wasg http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=578

    Mae manylion am yr ymgynghoriad cyhoeddus yma, dylet ti anfon dy feddyliau os oes gyda ti arbenigaeth sy’n berthnasol i’r bywyd digidol S4C: http://www.s4c.co.uk/cyfryngaunewydd/

     
  • Carl Morris 4:35 PM on 21 November 2011 Permalink | Ateb
    Tags: s4c,   

    SWYDDI: swyddog masnachol i’r tîm comisiynu S4C / chydlynydd cynnwys digidol S4C 

    Swyddog Masnachol i’r Tîm Comisiynu http://www.s4c.co.uk/swyddi/c_commercial_officer.shtml
    Cydlynydd Cynnwys Digidol http://www.s4c.co.uk/swyddi/c_cydlynydd_cynnwys_digidol.shtml

    Plîs gofynna yn uniongyrchol os oes gyda ti unrhyw gwestiynau.

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel