http://www.ifapcom.ru/files/Documents/multiling_eng.pdf
Proceedings of the International Conference (Yakutsk, Russian Federation, 2-4 July, 2008)
The book includes communications by the participants of the International Conference Linguistic and Cultural Diversity in Cyberspace (Yakutsk, Russian Federation, 2-4 July, 2008), that turned out to be one of the most significant events of the International Year of Languages. The authors present linguistic situation in different countries, cover political, ethical, sociocultural, psychological and other aspects of multilingualism, and give examples of measures taken worldwide to promote linguistic and cultural diversity.
Carl Morris 4:43 PM ar 6 Rhagfyr 2011 Dolen Barhaol
Methu dod i’r digwyddiad nawr. Fydd rhywun yn wneud fideo?
Hywel M. 9:57 PM ar 6 Rhagfyr 2011 Dolen Barhaol
Mynychais hwn (doedd neb yn gwneud fideo).
Cyflwynodd John ei waith ymchwil ar flogiau Gwyddeleg. Dangosodd ddarlun o’r rhwydwaith yr oeddent yn ffurfio (wedi ei greu gan ddefnyddio R http://www.r-project.org eglurodd e wedyn). Roedd nifer o’r blogiau heb gysylltiad o gwbl rhyngddynt a rhai eraill ac eglurodd John fod nifer o’r rhain yn flogiau o natur swyddogol/corfforaethol. Doedd hi ddim yn ymddangos i mi fod dwysedd y rhwydwaith yn uchel iawn a byddai wedi bod yn ddiddorol gweld sut y byddai blogiau Cymraeg yn cymharu. Soniodd John am waith Cunliffe a Honeycutte ac rwyf newydd fod yn edrych eto ar eu papur am Y Blogiadur (http://ella.slis.indiana.edu/~clhoneyc/homepage/papers/blogiadur-final.doc).
Soniodd John fod nifer o’r blogiau Gwyddeleg yn cael eu hysgrifennu gan bobl y tu allan i Iwerddon. Yn y drafodaeth wedyn dywedais fy mod yn meddwl bod hynny’n wahanol iawn i sefyllfa’r Gymraeg ac nad oeddwn yn gallu meddwl am brin dim un o dramor. Wrth gwrs wedi cip ar http://www.blogiadur.com sylweddolais yn syth fy mod wedi darllen sawl un, e.e.
o’r Asturias: http://asturiasyngymraeg.wordpress.com/2011/12/06/tren-cyflym-yn-arafu/
o UDA: http://emmareese.blogspot.com/2011/12/cyngerdd-y-nadolig.html
ac o Awstralai: http://anndraobell.wordpress.com/2011/12/05/penwythnos-ddiddorol/
Er hynny, mae ystadegau papur Cunliffe a Honeycutte’n cefnogi fy nghred nad oes llawer ohonynt: cofnodwyd 8 o dramor allan o 75 lle roedd lleoliad wedi ei ganfod. Ymddengys i mi o hyd felly fod sefyllfa’r blogiau Cymraeg a Gwyddeleg yn wahanol yn hynny o beth.
Mae’r we’n gwneud dadansoddiadau’n bosibl nad oedd yn bosibl eu gwneud cyn dyfodiad y we a dadansoddiadau rhwydweithiau cymdeithasol yw’r brif enghraiift. Mae ymchwil John yn darparu golwg newydd ar fath arbennig o rwydwaith. Efallai y bydd yn bosibl tynnu mwy o gymariaethau gyda sefyllfa blogiau Cymraeg. Byddai hynny’n gymorth i ni yng Nghymru a phobl Iwerddon farnu pa mor fywiog yw cymdeithas y blogwyr, o leiaf mewn cymhariaeth â’i gilydd. Asesu arwyddocâd byd y blogiau, i’w cymharu â Facebook, Twitter ac yn y blaen, yw’r brif broblem er hynny.
Carl Morris 12:07 AM ar 7 Rhagfyr 2011 Dolen Barhaol
Hoffwn i ddiweddaru’r rhestr o flogiau ar Blogiadur cyn hir. Ar hyn o bryd mae lot mwy ar Y Rhestr Hedyn gan gynnwys blogiau o du all i Gymru (mwy nag 8!).
Hywel, bydd crafu data ar Y Rhestr yn wych. Mae Kevin Scannell o Indigenous Tweets/Indigenous Blogs wedi bod yn ei defnyddio yn ddiweddar. Diolch am y crynodeb.
Rhys 8:47 AM ar 7 Rhagfyr 2011 Dolen Barhaol
Diolch yn fawr am yr adborth o’r digwyddiad Hywel. Basai’n diddorol iawn clywed mwy am sefyllfa’r Wyddeleg arlein, y enwedig blogiau. Falle dylid mynd ar ol John Caulfield* a gofyn os gellir rhoi copi o’i sgwrs/sleidiau arlein?
O ran blogiau Cymraeg, mae rhai o gyfranwyr Hacio’r Iaith wedi bod yn brysur yn casglu blogiau Cymraeg, sy’n estyniad/diweddariad o waith Cunliffe a Honeycutte.
Gweler yma: http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_Cymraeg
Rydym wedi eu dosbarthu sawl ffordd, gan gynnwys lleoliad. Dyma’r rhai o du allan i Gymru: http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_o_du_all_i_Gymru
O gwglo, sylwaf fod John Caulfield yn aelod o Adran Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd:
Rhys Wynne 9:00 AM ar 7 Rhagfyr 2011 Dolen Barhaol
Wps, sori am ail adrodd beth ddwedodd Carl. Mond rwan cafodd ei sylw ei gymeradwyo!