Tagiwyd fel: rhwydwaith cymdeithasol RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhodri ap Dyfrig 5:30 PM ar 16 September 2011 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: check-ins, , , gêmeiddio, gps, lleoliadau, rhwydwaith cymdeithasol   

    Haenau cymdeithasol Cymraeg, gêmeiddio a lleoli daearyddol 

    Ar ôl y synfyfyrio wnes i ddoe am Foursquare, meddalwedd lleoli daearyddol a’r Gymraeg ges i rhyw egin syniad am ffordd efallai y gallech chi gael check-ins i weithio mewn ffordd lle mae’r Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn naturiol. Ai’r unig ffordd i gael y math hyn o dechnoleg yn gynaladwy yn y Gymraeg yw i greu system newydd lle mae’r checkins nid ar gyfer lle, neu ddigwyddiad mewn lle yn unig, ond ar gyfer unrhyw weithgaredd cymdeithasol sydd un ai yn Gymraeg neu efo nifer fawr o siaradwyr Cymraeg ynddo. Fase fo rhyw fath o gyfuniad o GetGlue a Foursquare.

    Ma Bwrdd yr Iaith wedi ceisio creu rhyw fath o ymgyrch sydd yn tagio gweithgareddau Cymraeg gyda’r stwnshnod #joio, ond heb lwyddiant mawr yn fy marn i, a heb unrhyw wasanaeth wedi ei adeiladu ar ben cyfanrediad y cynnwys wedi ei labelu gyda’r tagiau yna.

    Efallai nad oes angen y lleoli daearyddol o gwbl a taw checkins i ‘stwff cymdeithasol’ sy’n digwydd ar amser penodol fasa fo. Mae hyn yn digwydd eisoes ar Twitter mewn ffordd anffurfiol, a’r ochr tips/adolygiadau yn cael ei brofi gyda adolygiad.com. Byddai cael apps ac apps gwe symudol-hwylus yn gallu tyfu a ffurfioli hyn mewn ffordd fasa’n lot o hwyl dwi’n meddwl gan gyrraedd pobol newydd efallai.

    Felly yn lle trio pegio Cymraeg ar haenen gymdeithasol sydd eisoes yn Saesneg ei hiaith, oni ddylen ni drio creu haenen gymdeithasol arall sydd yn Gymraeg yn unig?

    Gêmeiddio’r Gymraeg ynde*! Does dim llawer o wasanaethau lle mae modd cael serendipity o ran defnyddio cynnwys, lleoliad neu weithgarwch yn y Gymraeg. Hen bryd efallai?

    Be ma’r Hacwyr yn feddwl?

    [ * dwi ddim wir yn hoffi'r cysyniad o 'gamification' yn yr ystyr ei fod yn gallu gweithio fel ffordd slei i ysgogi pobol i gyfrannu cynnwys at ddibenion cwmniau masnachol, ond pwy dwi i ddeud nad ydi elfennau gêmaidd mewn meddalwedd gymdeithasol yn gallu bod yn hwyl]

     
    • Carl Morris 11:41 AM ar 11 Hydref 2011 Dolen Barhaol

      Felly yn lle trio pegio Cymraeg ar haenen gymdeithasol sydd eisoes yn Saesneg ei hiaith, oni ddylen ni drio creu haenen gymdeithasol arall sydd yn Gymraeg yn unig?

      Dylen ni. O leiaf dylen ni trio pethau.

  • Carl Morris 11:34 PM ar 3 September 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , FOI, , , rhwydwaith cymdeithasol   

    Llywodraeth Cymru v Facebook a phlatfformau rhwydwaith cymdeithasol

    The Welsh Assembly Government employs filtering software on its ICT systems which actively block any attempt to access web-sites categorised as inappropriate. Social Networking sites are captured by this software, and as a result there have been no incidents of staff accessing any of the sites you name.

    Oh da iawn.

    Heblaw ffonau poced ac Ubuntu ar co’bach.

    Fy prif bwynt: os wyt ti erioed wedi meddwl pam bod cyfathrebu arlein y Llywodraeth yn wael, dyna’r ateb.

    Dyw’r staff ddim yn gallu cael mynediad i declynnau cyfathrebu achos mae’r Llywodraeth yn meddwl bod nhw yn fabanod.

    Datganiad: dw i wedi gwneud gwaith i’r Llywodraeth Cymru fel ymgynghorydd ond dw i’n hapus i siarad am eu methiannau nhw i ddatblygu’r defnydd arlein yng Nghymru (ond allen nhw ymweld haciaith.com o gwbl?).

    Testun o gais FOI

    http://wales.gov.uk/publications/accessinfo/disclosurelogs/dlgov2010/2010/dlgov64/?skip=1&lang=cy

    (Dim fersiwn Cymraeg ar gael ar hyn o bryd yn anffodus.)

     
    • hywel 12:03 AM ar 4 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Hacio has made leaps forward in on-line dialogue with issues and now it seems the assembly is blind to a generation that may enquire democratic questions through the Welsh language. Siom ofnadwy

    • Rhodri ap Dyfrig 10:06 PM ar 6 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Ysgrifennodd Stephanie Booth am y diffyg parhaol hyn mewn dealltwriaeth o’r dulliau posib o gyfathrebu yn ei erthygl (Ffrangeg) “Lisez le Cluetrain Manifesto”. Dyma gyfieithiad Saesneg (mae’r un Cymraeg yn annealladwy yn anffodus).

    • Carl Morris 10:25 AM ar 7 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Mae gwaith a thechnoleg yn gallu cymysgu. Dylen nhw gymysgu.
      e.e. mae’r BBC yn defnyddio platfformau rhwydwaith cymdeithasol, dyma’r canllaw staff BBC.
      http://www.bbc.co.uk/guidelines/editorialguidelines/assets/advice/personalweb.pdf

      Dw i newydd wedi siarad am Cluetrain bore ‘ma!

  • Carl Morris 11:11 PM ar 11 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: blacktags, , rhwydwaith cymdeithasol,   

    Pobol du, diwylliant du, Twitter a blacktags 

    http://www.slate.com/id/2263462/pagenum/all/

     
  • Carl Morris 5:04 PM ar 7 March 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: BuddyPress, rhwydwaith cymdeithasol,   

    Dewch i profi BuddyPress gyda ni 

    Mae BuddyPress yw meddalwedd i creu gwefan gyda “rhwydwaith cymdeithasol” dy hun.

    Dewch i brofi BuddyPress gyda ni. http://shwmae.com/buddypress/

    Cofrestrwch. http://shwmae.com/buddypress/register/

    Dw i’n gwahodd pobol di-Gymraeg a siaradwyr Cymraeg i’r prawf ar hyn o bryd. Dyn ni’n gallu cyfieithu e os mae’n defnyddiol. Diolch.

    Manylion cefndirol ar y flog WordPress

     
c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu