Tagiwyd fel: pethaubychain RSS Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhodri ap Dyfrig 9:43 PM ar 6 September 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , , pethaubychain   

    Beth yw pwynt gwneud y Pethau Bychain, os oes neb yn darllen? 

    Dyma fy ymateb i gofnod blog gan Ifan Morgan Jones – “Faint sy’n darllen?” – sy’n cwestiynu gwerth cael nifer fawr o gyfraniadau bychain ar y we, os oes bron neb yn eu darllen.

    Dwi wedi cau sylwadau yma, er mwyn i chi fynd a rhoi unrhyw sylwadau ar flog Ifan. Diolch.

    Petai David R Edwards wedi meddwl am gynulleidfa yn yr wythdegau, fyddai ganddon ni’r gwaith oedd ganddo yn y 90au?

    Petai pob rhaglen S4C yn cael ei barnu ar gynulleidfa fyddai hynny’n golygu bod dim pwynt cynhyrchu rhaglenni?

    Un peth am y ‘gynulleidfa’ we os alli di alw fo’n hynny hyd yn oed, ydi ei fod ddim yn dilyn pethau yn ddyddiol yn aml iawn ac yn dibynnu ar ddolenni gan bobol (ar Twitter neu Facebook gan amlaf) neu sefydliadau (Golwg360 neu BBC Cymru gan amlaf) i dynnu traffig drwodd i ddarnau unigol o gynnwys. Dydi o ddim yn ddibynnol ar amser (gall cofnod blog fod yn boblogaidd dros amser byr neu amser llawer hirach).

    O mhrofiad i o flogio, mae gen ti gynulleidfa gyson gymharol fach (ac mae’r gymharol yn bwysig), sydd yn driw, ac yn werth sgwennu ar eu cyfer. Os ti’n hapus yn blogio i 20 yna mae hynny’n gret. Mae llawer iawn o fanzines yn gweithredu fel’na. Mae unrhyw sin DIY yn gweithredu fel’na. Mi gei ambell i gofnod sydd rywsut yn cyrraedd tu hwnt i hyn ac yn rhoi spike mawr yn y traffig yna sefydlogi nol eto i’r un lefel, ac mae hyn yn gret, ond fel yn y cigfyd, dim ond rhai o’r llawer fydd yn cyrraedd cynulleidfa fawr.

    Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn destun siom, jest fel’na ma’r we yn gweithio. Mae Twitter wedi gwneud gwahaniaeth mawr i dynnu traffig drwodd i wefannau eraill. Dydi rhan fwyaf o flogiau Cymraeg ddim yn gwthio eu cynnwys drwodd i Twitter, lle mae pobol yn gallu lledu gair am gofnod yn hawdd.

    Os ti isio ffigyrau yna dyma rai fideobobdydd.com am Awst:

    Ymwelwyr Unigol Absoliwt = 643
    Ymwelwyr Unigol = 1,175
    Ymweliadau Tudalen = 2,264
    Cyfartaledd amser a dreulir ar y wefan = 2 funud 17 eiliad
    Cyfartaledd tudalennau a ddarllennir = 1.93

    A bod yn onest, dwi’n fwy na hapus os mae na 643 o unigolion wedi ymweld a gwefan gwbl annibynnol, di-hysbyseb, di-farchnata (ish), a di-arian.

    Meddyliwch beth allai pobol wneud gyda chyllideb?

    A does neb yn ‘cyhoeddi ffigyrau’ am fod dim llawer o neb efo iot o ddiddordeb! Os mae blog yn cynhyrchu un darn da o gynnwys y mis. Mae hynny’n lwyddiant. Mae’n gwneud cystal a llawer i bapur bro neu raglen radio gymunedol fyswn i’n tybio.

    Efallai bod beth mae Catrin Beard yn dweud yn wir, fod na dipyn o bethau diflas ar-lein, ond mae nhw’n siwr o fod yn ddiddorol i rywun! Pam bod popeth yn gorfod bod yn ddiddorol i un person penodol? Mae’r we yn ddi-ddiwedd, does na ddim prinder lle na column inches, felly mae lle i gael blog crochet lluniau o superheroes y 50au yn Gymraeg os oes na un person yn darllen ac yn gwerthfawrogi hynny.

    Mae pobol dal i feddwl yn y ffordd, bod rhaid i bethau weithio fel print, fel teledu, fel radio – lle mae lle yn brin ac felly rhaid dewis a dethol beth fydd yn mynd arnynt. Ar y we, mae na infinte self space, felly does dim ots os oes blog sydd â dim ond deg darllennydd dyddiol (ac mae dyddiol yn misnomer hefyd – sawl ymwelydd i gofnod fasa’n fesur gwell – neu faint o amser mae nhw’n treulio ar y wefan).

    Mae blogiau hefyd yn lif o gynnwys yn hytrach nac yn erthgyl fisol, lle mae rhywun yn hogi fo i fod yn berffaith. Publish or be damned ydi’r ethos, ac os oes rhywbeth yn taro deuddeg bob yn hyn a hyn yna gret.

    Mae yna’r broblem o critical mass ar gyfer sylwadau ar flogiau Cymraeg, ond mae hynny’n rhywbeth arall yn llwyr.

    Dwi’n credu dy fod yn gwbl anghywir o ddweud bod darllen rhywbeth Cymraeg ar-lein yn fwy adeiladol na chreu rhwybeth newydd. Pam ar wyneb y ddaear bod y ddau yn mutually exclusive i ddechrau, a sut mae bod yn passive mewn byd lle mae cyfranogiaeth yn ein amgylchynu yn rhoi’r Gymraeg ar y droed flaen wn i ddim. Rhaid i ni gymryd rhan ym mhob agwedd o ddiwylliant digidol os da ni am gadw unrhyw berthnasedd yn y degawdau nesaf.

    Os mae digon o flogiau, a rhaid cofio taw nid dim ond blogiau yw’r we o bell, bell ffordd, yna mae pethau mwy poblogaidd yn bownd o godi ohonyn nhw.

     
  • Carl Morris 3:40 PM ar 3 September 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , pethaubychain, satnaf   

    Newid y satnaf i roi gorchmynion yn y Gymraeg gan @malpate 

    http://malw.wordpress.com/2010/09/03/newid-y-satnaf-i-roi-gorchmynion-yn-y-gymraeg/

     
  • Carl Morris 1:38 PM ar 3 September 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , pethaubychain,   

    Blog WordPress newydd @rhysw1 #pethaubychain 

    Da iawn arch-blogiwr, Rhys Wynne.

    http://gwenu.com/2010/09/03/cam-cyntaf-gyda-wordpress/

    Dyn ni’n copio’r cofnodion o’r Blogspot wreiddiol i’r WordPress cyn bo hir.

    Diwrnod Pethau Bychain Hapus!

     
  • Carl Morris 5:30 PM ar 15 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , pethaubychain   

    Pethau Bychain – diwrnod i ddathlu’r iaith Gymraeg arlein… #pethaubychain 

    http://pethaubychain.com/beth-yw-pethau-bychain/

     
    • Carl Morris 6:09 PM ar 15 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Os wyt ti eisiau creu fideo neu erthyglau “Sut-i” yn Gymraeg fel
      http://haciaith.com/2010/01/30/sesiwn-ochr-ar-greu-fideos-how-to/

      Basai nawr yn BERFFAITH – fideos neu erthyglau am bethau creadigol yn enwedig.

      Efallai creu fersiwn Cymraeg o fideo/erthygl sy’n bodoli yn barod.

      Gwnaf i sgwennu dolen i dy waith o’r wefan Pethau Bychain. Diolch!

  • Carl Morris 10:12 PM ar 14 August 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , pethaubychain   

    Beth yw Pethau Bychain? | Yr Addewid 

    Beth yw Pethau Bychain?

    Beth?

    Mae Pethau Bychain yn ddiwrnod i ddathlu’r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.

    Pryd?

    Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010

    Pam ydyn ni’n wneud Pethau Bychain?

    Rydyn ni’n or-ddibynnol ar gyfryngau wedi eu bwydo i ni yn y Gymraeg: mae’r we yn gyfle i ni furfio ein sianeli, ein gorsafoedd a’n diwylliant digidol ni ein hunain ar ein telerau ni.

    Os ydyn ni am i’r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhai i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol. Fel ddywedodd Ron Jones, pennaeth Tinopolis, yng nghylchgrawn Barn yn ddiweddar “os na fyddwn yn diogelu’r Gymraeg fel iaith ar-lein, ni all yr iaith hawlio’i lle yn y byd modern.”

    Drwy wneud un o’r pethau bychain rydych yn chwarae rhan allweddol mewn llusgo’r Gymraeg mewn i’r byd digidol.

    Pwy a wyr efallai taw eich pethau chi fydd yn lledu ar draws y we

    Pam bod lleisiau Cymraeg ar-lein yn bwysig?

    Mae’r we yn gyfrwng newydd. Mae’n bwysig iawn i weld yr iaith Gymraeg ar y teledu ac ar y radio. Mae’r un peth yn wir am y we.

    Pa fath o bobol sy’n wneud pethau ar y diwrnod Pethau Bychain?

    Rydyn ni eisiau gwahodd pawb sy’n gallu siarad Cymraeg neu sy’n dysgu Cymraeg, hen ac ifanc, dynion a benywod.

    Does dim angen profiad o flaen llaw.

    Dylen ni drio cael awduron / beirdd / pobol ffilm sydd *yn* brofiadol hefyd ddo. Does gan lawer iawn o bobol creadigol Cymraeg ddim presenodleb ar-lein. Gallan nhw jest gyhoeddi gwaith maen nhw wedi ei wneud eisoes ar y we.

    Beth yw’r tag?

    pethaubychain yw’r tag – am wasanaethau gyda tagiau. Bydd e’n hawsa i ffeindio unrhywbeth gyda’r tag.

    Flickr: pethaubychain
    YouTube: pethaubychain
    Twitter: #pethaubychain
    blogiau: pethaubychain
    ayyb

    Beth nesaf?

    Mae gyda ni Addewid.

    A phaid anghofio Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010!

    Yr Addewid

    “Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach arlein yn y Gymraeg ar Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010. Gall y peth bach fod yn greu:

    • cofnod blog
    • fideo
    • darn o gerddoriaeth
    • podlediad
    • tudalen ar Wicipedia
    • ffansin cerddoriaeth
    • nonsens Photoshop
    • comic gwe
    • remix
    • stwnsh fideo
    • erthgyl academaidd
    • blog newyddion lleol
    • rhoi eich papur bro arlein
    • adolygiad ffilm
    • trosleisio/isdeitlo ffilm
    • sgetsh gomedi
    • drama Twitter
    • e-farddoniaeth
    • defnydd creadigol o fapiau Google
    • creu tudalen we o gwmpas eich hobi / cymdeithas
    • neu rhywbeth arall…

    Yr unig beth rydyn ni’n gofyn ydi ei fod yn Gymraeg a’i fod am rywbeth sy’n cyffroi neu gorddi chi.”

    “Bwriad y prosiect ydi cael mwy o bobol yn creu stwff difyr ar-lein a chynyddu’r gymuned Gymraeg ar y we. Drwy wneud un peth bach gallwch chi gyfrannu tuag at wneud y Gymraeg yn iaith fyw ar y we. Byddwch hefyd yn cael cynulleidfa fwy i’ch gwaith gan y bydd popeth yn cael ei dangos ar pethaubychain.com.”

     
    • Rhys Wynne 9:12 PM ar 16 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Os ydyn ni am i’r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhai i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol. Fel ddywedodd Ron Jones, pennaeth Tinopolis, yng nghylchgrawn Barn yn ddiweddar “os na fyddwn yn diogelu’r Gymraeg fel iaith ar-lein, ni all yr iaith hawlio’i lle yn y byd modern.”

      Roedd erthygl dda gan Rhys Mwyn yn y Daily Post yr wythnos hon (11.8.10) o dan y teitl ‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill, ar eich cyfrfiadur fydd o’. Mae’r erthygl yn sôn am sut mae’r teledu’n gyfrwng llai a llai pwysig a sut mae yna fideos unigol ar YouTube sydd wedi cael mwy o wylwyr na mae S4C yn dderbyn mewn blwyddyn. Byddai wedi bod yn erthygl dda i roi dolen ati o flog Pethau Bychain, ond yn eironig, dyw hi ddim ar gael ar-lein! (Mae’r Daily Post wedi stopio gosod cynnwys ei cholofnau Cymraeg ar-lein ers dros flwddyn am ryw reswm).

    • Carl Morris 3:43 PM ar 17 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Diddorol.

      Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill, ar eich cyfrifiadur fydd o (gan Rhys Mwyn)
      http://www.thefreelibrary.com/Fydd+y+chwyldro+ddim+ar+y+teledu+gyfaill,+ar+eich+cyfrifiadur+fydd+o.-a0234113052

c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu