SWYDD: Rheolwr i Gymru (Prosiect Wicipedia)

Dyma hysbyseb swydd a ymddangosodd yn Golwg yr wythnos hon: Mae Wici Cymru a Wikimedia UK yn chwilio am Reolwr i Gymru i ddatblygu’r Wicipedia Cymraeg a Saesneg yng Nghymru drwy ysbrydoli a hyfforddi golygyddion newydd drwy gynllun y prosiect Llwybrau Byw! Dylai’r Rheolwr fod yn brofiadol mewn: golygu prosiectau Wicimedia (Cymraeg a Saesneg), cefnogi… Parhau i ddarllen SWYDD: Rheolwr i Gymru (Prosiect Wicipedia)

‘Hwb’ ar ei ffordd i addysg yng Nghymru

Chydig o newyddion gan y Llywodraeth am ddatblygiadau defnydd technolegau newydd ym myd addysg Cymru: Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddwyd adroddiad y grŵp (Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth), ‘Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol’, a oedd yn cynnwys deg argymhelliad pwysig. Er mwyn sicrhau bod strategaeth… Parhau i ddarllen ‘Hwb’ ar ei ffordd i addysg yng Nghymru

RIP Directgov Cymraeg. Ond beth nesaf?

Mae’r wefan Directgov sydd yn cynnig gwasanaethau fel: treth car pasbortau swyddi gwybodaeth a mwy ar ran Llywodraeth DU yn dod i ben cyn hir. Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o ymwelwyr i’r cofnod yma wedi defnyddio Directgov unwaith o leiaf. O 17eg mis Hydref 2012 ymlaen bydd gwasanaethau Llywodraeth ar gael trwy wefan… Parhau i ddarllen RIP Directgov Cymraeg. Ond beth nesaf?

Seminar #techcy – fideos a sleids y cyflwyniadau nawr ar gael

Mae’r fideos wedi caeleu rhoi arlein o’r 5 cyflwyniad a roddwyd i ddechrau trafodaethau yn y seminar technoleg a’r Gymraeg gynhaliwyd gan y Llywodraeth fis dwetha. Dwi ddim yn meddwl bod y sleids i’w gweld ar y fideos yn anffodus ond gallwch chi lawrlwytho nhw fan hyn. Leighton Andrews Marc Webber Sioned Roberts Huw Onllwyn… Parhau i ddarllen Seminar #techcy – fideos a sleids y cyflwyniadau nawr ar gael

Llywodraeth Cymru: Seminar i drafod y Gymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol

Mae rhywun o Lywodraeth Cymru wedi gofyn i fi rhannu’r digwyddiad isod. Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu Seminar i drafod y Gymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol – 21 Mehefin 2012. Ble: Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd Pryd: Dydd Iau 21 Mehefin 2012 Amser: 10:00 – 13:30 yn gorffen gyda cinio Rhagor o fanylion gan gynnwys agenda… Parhau i ddarllen Llywodraeth Cymru: Seminar i drafod y Gymraeg, Technoleg a’r Cyfryngau Digidol

Gmail yn y Gymraeg!

Newyddion mawr heddiw, mae’r Comisynydd Iaith (Meri Huws) wedi cyhoeddi bod Google yn mynd i gwneud fersiwn Cymraeg o’r gwefan e-bost poblogaidd “Gmail” ar gael yn y Gymraeg. Dywedodd Meri Huws: Mae technoleg gwybodaeth yn rhan ganolog o’n bywydau bob dydd – byddwn yn ei defnyddio yn yr ysgol neu yn y coleg, yn y… Parhau i ddarllen Gmail yn y Gymraeg!

Cydweithio côd rhwng sefydliadau’r sector gyhoeddus yng Nghymru? Syniad twp?

Dwi wedi bod yn meddwl am ein sefydliadau yng Nghymru, a’r potensial creadigol sydd wedi ei gloi tu mewn i rai ohonyn nhw. Wn i ddim os oes unrhyw werth i’r syniad yma ond dwi am ei wyntyllu beth bynnag: Beth pe bai pob sefydliad cyhoeddus yng Nghymru (Amgueddfa Gen, Llyfrgell Gen, Llywodraeth ayyb) yn… Parhau i ddarllen Cydweithio côd rhwng sefydliadau’r sector gyhoeddus yng Nghymru? Syniad twp?

Gov UK: cyfle @ybwrdd i adael etifeddiaeth

Mae’r Llywodraeth DU wedi agor ei phlatfform newydd fel prawf beta: https://www.gov.uk/ (Newyddion ar BBC News heddiw) Hmmm. Llynedd gwnes i ofyn am ddarpariaeth Gymraeg ac yn ôl y sôn maen nhw yn siarad â Bwrdd yr Iaith a Llywodraeth Cymru. Yn fy marn i, o ran digidol mae’r prosiect yma yn cynnig cyfle gwych… Parhau i ddarllen Gov UK: cyfle @ybwrdd i adael etifeddiaeth

Gwefan Comisiwn Silk yn defnyddio WordPress

Gwefan Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru http://comisiwnarddatganoliyngnghymru.independent.gov.uk/ independent.gov yw’r enw parth ar gyfer cyrff hyd-braich a gwefannau dros dro eraill (nid awgrym o argymhelliad y comisiwn ar ddatganoli…) Cefndir gan y datblygwyr gan gynnwys nodiadau am ddefnydd o WPML er mwyn rhedeg gwefan dwyieithog http://puffbox.com/2011/11/24/small-site-big-name/