Blogiwr arall yn cael ei erlid gan awdurdol lleol.
Dan ni eisoes wedi blogio yma am Gyngor Sir Gâr yn galw’r heddlu wrth i flogwraig lleol recordio cyfarfodydd y cyngor. Tro Cyngor Barnet, Llundain yw hi y tro hwn i ddangos i’r byd sut i beidio ag ymddwyn yn ddemocrataidd.
Cefndir: Yn dilyn penodiad gan y cyngor ar gyfer Creation of a Change and Innovation Manager (cyflog £50K), dyma blogiwr lleol, Mr Mustard (enw iawn Derek Dishman) yn ysgrifennu cofnod yn cwestiynu gwerth ac chymhellion y swydd. Yn yr un cofnod mae hefyd yn ailgyhoeddi gwybodaeth am y sawl a benodwyd, Jonathan Tunde-Wright, a ddaeth yn syth o wefan/blog personol y gwr hwnnw.
Dyma Cyngor Barnet yn cwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth a honni bod Derek Dishman wedi torri’r gyfraith o dan y Ddeddf Gwarchod Data (a all olygu dirwy o hyd at £5,000) nad nad oedd wedi cofrestru fel Data Controller, a’i fod wedi “processed personal data unfairly” am nad oedd Jonathan Tunde-Wright wedi cyfeirio at ei swydd newydd ar ei wefan.
Dyma’r Comisiynydd yn gwrthod y cwyn.


Rhys 8:42 AM ar 28 Ebrill 2011 Dolen Barhaol
Biti garw. O ddarllen y sylwadau, un Caerdyd sy’n cael ei grybwyll fwyaf, a dw i’n meddwl bod hyn yn rhanol gan bod yna fwy o fwlch yng Ngehaerdydd i newyddion lleol na sydd yna efallai yng Nghaeredin a Leeds, sydd a gwasg lleol cryfach a mwy amrywiol. Fel mae ambell un wedi crybwyll, mae wedi gwneud i Media Wales dynnu eu bys mas, gan ddechau YourCardiff (sy’n reit da, ond dw i ddim yn ei ddilyn am ryw reswm – ei gysylltiad gyda’r Western Mail sy ar fai falle?).
O ran ochr ariannu, mae ambell sylw (fel hwn) yn awgrymu y basai’n well i’r Guardian golli rhai o’i nodewddion eraill i gadw’r gwefannau lleol i fynd – pethau sy’n ymddangos yn y prif bapur (neu ar-lein) sy hefyd ar gael mewn sawl papur/man arall. Ond diwedd y gan yw’r geiniog. Efallai mai gwendid Guardian Local o ran hysbysebu oedd nad oes gyda nhw gysylltiadau lleol i fynd ar ol hysbysebwyr llai/lleol – doedd hysbysebion ‘singles’ ddim yn ddigonol!
Carl Morris 6:29 PM ar 28 Ebrill 2011 Dolen Barhaol
Doedd dim bwriad o werthu hysbysebion o gwbl. Siaradais i gyda nhw ar y cychwyn – roedd e’n broject arbrofol heb unrhyw gyfeiriad yn y papur a heb, dw i’n meddwl, unrhyw gyfeiriad unrhyw le ar weddill y wefan.
Gyda llaw mae bron unrhyw un yn gallu blogio i YourCardiff. Os oes gyda ti cyfrif ti’n gallu blogio a chyhoeddi yn syth… Ond dim arian wrth gwrs. Fel Huffington Post.
Carl Morris 6:55 PM ar 28 Ebrill 2011 Dolen Barhaol
Sgwrs diddorol ar y grwp Facebook http://www.facebook.com/pages/Save-the-Guardian-Cardiff-Beatblogger/181180178600885