Tendr WordPress: datblygu meddalwedd ar gyfer cynllun Bro360

Os ydych chi’n arbenigo mewn WordPress mae cyfle i chi geisio am dendr i ddatblygu i gwmni Golwg360 a’i brosiect newyddion lleol Bro360. Dw i eisoes wedi blogio am hyn. Ewch i GwerthiwchiGymru am ragor o fanylion am y cyfle, sydd bellach yn fyw.

Bro360: cyfle i weithio fel datblygydd ar brosiect gwefannau bro

Mae straeon am brosiect newydd Bro360 eisoes wedi bod ar Golwg360 a BBC Cymru Fyw. Dyma neges wrth gwmni Golwg am y prosiect newyddion cymunedol, a chyfle i rywun gydweithio gyda’r cwmni fel datblygydd meddalwedd. Mae Golwg Cyf yn dymuno penodoi cwmni neu gonsortiwm cymwys i greu meddalwedd fydd yn sylfaen ar gyfer cynllun Bro360.… Parhau i ddarllen Bro360: cyfle i weithio fel datblygydd ar brosiect gwefannau bro

Gwefannau newyddion Cymraeg – cyfle a syniad

Pwy a ŵyr bod ‘na gwefan o’r enw The Tab sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr gan gynnwys rhai gwrth-Gymraeg? Dyma’r stori yn Golwg360 yr wythnos diwethaf Mae digon o rantio am ffolineb rhai o gyfrannwyr The Tab Cardiff ar Twitter. Nid dyna yw’r math o beth rydym yn wneud ar Hacio’r Iaith. Does dim… Parhau i ddarllen Gwefannau newyddion Cymraeg – cyfle a syniad

Cynulliad: Diwrnod Newyddion Hyperleol 23/10/2014

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal diwrnod newyddion hyperleol ar 23 Hydref. Ceisia’r digwyddiad, a gynhelir mewn partneriaeth â Chanolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, Prifysgol Caerdydd ddod â newyddiadurwyr hyperleol a chymunedol i’r Senedd i’w galluogi i roi gwybod am waith y Cynulliad Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w hardal a’u cynulleidfaoedd. Mae’r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y… Parhau i ddarllen Cynulliad: Diwrnod Newyddion Hyperleol 23/10/2014

Papur Dre ar y we

Mae Papur Dre a Chwmni Da wedi ennill lle ar brosiect Nesta o’r enw Destination Local. Maen nhw yn derbyn arian a chefnogaeth er mwyn datblygu newyddion lleol. Rhagor o wybodaeth: Destination Local winners announced by Nesta http://www.nesta.org.uk/blogs/creative_economy_blog/ten_destination_local_projects_announced Gwych. Edrych ymlaen i weld y canlyniadau.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio ,

Cyfle am hyd at £50k gan NESTA ar gyfer peilot hyperleol amlblatfform Cymraeg?

http://www.nesta.org.uk/events/assets/events/destination_local_wales Ymddiheuriadau am y testun Saesneg, ond does dim ar y wefan… Date: 23.04.2012 12:30 – 16:30 Location: Wales Millennium Centre, Bute Place, Cardiff Bay CF10 5AL Join us at the Wales Millennium Centre in Cardiff for an information and networking event around two new funding competitions for Hyperlocal media projects from the Technology Strategy… Parhau i ddarllen Cyfle am hyd at £50k gan NESTA ar gyfer peilot hyperleol amlblatfform Cymraeg?